Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Dim eithafwyr’ – addewid pennaeth Libya

Hydref 25, 2011 08:10

Mae pennaeth tros dro Libya wedi ceisio tawelu ofnau gwledydd y Gorllewin y bydd y wlad yn mynd i ddwylo Moslemiaid caeth.

Mae Mustafa Abdul-Jalil yn mynnu y bydd y wlad yn ddemocrataidd ac mai Moslemiaid cymedrol fydd yn rheoli.

Roedd rhai o wledydd y Gorllewin wedi mynegi pryder  ar ôl i arweinydd y Cyngor Trawsnewid Cenedlaethol gyhoeddi mai cyfraith Sharia’r Moslemiaid fyddai yn Libya.

Claddu mewn lle dirgel

Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o bwysau ar y llywodraeth dros dro i gynnal ymchwiliad i’r ffordd y cafodd y cyn unben, Muammar al-Gaddafi, ei ladd ar ôl ei gaethiwo.

Mae’n ymddangos fod ei gorff ef, un o’i feibion a’i Weinidog Amddiffyn wedi cael eu symud o farwdy ar gyfer eu claddu.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, fe fydd hynny mewn bedd heb ei nodi mewn ardal ddirgel – rhag ofn fandaliaid.

Ac mae mudiad hawliau dynol, Human Rights Watch, wedi mynegi pryder am ladd a dwyn yn Libya, gan honni fod un bedd torfol wedi’i ffeindio yn Sirte, cadarnle ola’ Gaddafi.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Fon Gruffydd , Hydref 25, 2011 6:00 pm

Mae’n braf clywed hyn gan y dyn a fu’r Gweinidog Cyfiawnder yn regime Gadaffi ac sydd rwan yn ‘bennaeth Libya’, tydi? ‘Dim eithafwyr’ – heblaw arweinwyr y pedwar prif filisias sydd i gyd yn [gyn-?]aelodau o’r grwp terfysgol islamyddol a roddwyd ar y rhestr o grwpiau terfysgol eithafol gan y Gorllewin ar ol 9/11. Ac roedd pawb sy’n dilyn y digwyddiadau yn Libya yn gwybod am ran y gyfraith Sharia yn y gyfundrefn newydd pe bai’r NTC yn cipio grym achos cafodd y manylion eu datgelu mewn adroddiad Reuters fisoedd yn ol. Does dim syndod fan’na felly.

Dyfodol Libya diolch i Nato ac Emir dieflig Qatar: ail Iran (ond Sunni yn lle Shia) neu ail Irac neu gymysgedd o’r ddau.

§

Dafydd , Hydref 25, 2011 8:17 pm

Dwi ddim yn deall…..roedd Nato i sicrhau ‘no fly zone’ yn ol y CU. Ond mi wnaeth nhw ymosod yn ddidrigaredd ar fyddin Gaddaffi hyd yn oed pan oeddynt wedi cilio i Sirte. Ceisio dianc oedd Gaddaffi pan wnaeth awyrenau Ffrainc ymosod arnynt. Oedd gan Gaddaffi geir oedd yn hedfan? Nad oes cyfraith rhyngwladol yn bod bellach? Dylai Cameron, Sarkhozy ac Obama fod mewn llys.

§| Nodi camddefnydd

Fon Gruffydd , Hydref 25, 2011 11:57 pm

Rydych chi’n iawn, Dafydd. Esgus i ymosod ar Libya a dymchwel ei llywodraeth oedd yr Ardal Ddim Hedfan (NFZ) o’r cychwyn cyntaf. Ac yng nghanol yr holl ddathlu barbaraidd yng nghyfryngau’r Gorllewin – a chwerthin a jocio uffernol y ddiawles honno Hilary Clinton hefyd! – does dim son o gwbl bron am y bobl gyffredin a laddwyd gan NATO a’r NTC yn Beni Walid a Sirte. Mae Sirte, a fu’n gartref i 100,000, wedi’i dinistrio’n llwyr ac mae’n debyg fod cannoedd o bobl gyffredin wedi marw yno. Ydyn nhw ddim yn cyfrif? Sut oedd y bomio didrugaredd ar Sirte yn “amddiffyn pobl gyffredin”?!

Y gwir ydyw does affliw o ddim ots gan NATO ac UDA am y gyfraith ryngwladol bellach ac mae hynny’n ddatblygiad peryglus dros ben.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.