Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Gŵr o Lambed yn ofni am ddyfodol Lybia

Hydref 27, 2011 08:50, Diweddarwyd am 11:37


Y Cyrnol Gaddafi
Mae’r ffordd y cafodd y Cyrnol Gaddafi ei ladd yn Lybia, yn siŵr o achosi mwy o broblemau i’r wlad.

Dyna ddywed gŵr o Lanbedr Pont Steffan a fu’n gweithio i’r diwydiant olew yno am gyfnod ac sy’n dal mewn cysylltiad â phobol yn y wlad.

“Oedd, roedd hi’n bwysig cael gwared arno fe,” meddai Weislaw Gdula, “ond dim yn y ffordd wnaethon nhw ddelio ag e.”  Roedd yn ymateb i honiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barrack Obama bod marwolaeth Gaddafi yn ddigwyddiad “eithriadol o bwysig yn hanes Libya.”

Yn ôl Weislaw Gdula, mae’r modd y cafodd Gaddafi ei ladd, ac yna’i ddarlledu, yn debygol o achosi mwy o drwbl wrth geisio creu trefn newydd yn Libya.

“Y pryder yw beth sy’n mynd i ddigwydd nawr. Galle hyn fynd ymlaen am flynyddoedd – mae ’na bobol yna sy’n dal i gefnogi Gaddafi,” meddai. “Ac ar ben hynny does neb sy’ dan 42 oed yna wedi byw dan unrhyw fath o drefn lywodraethol arall.

“Dw i’n ofni y bydd lot o helynt yna eto,” meddai gan droi at sgrin y cyfrifiadur sy’n ei gadw mewn cysylltiad â’i ffrindiau yn Lybia.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Hydref 27, 2011 12:45 pm

Ai cyd-ddigwyddiad yw mai gwr o Lanbedr P-S sy’n cael ei holi, ac mai yn Llanbedr P-S mai swyddfa Golwg ? .
Tybed beth fuasai ymateb rhai o drigolion eraill Llanbedr P-S -er enghraifft rhai o fyfyrwyr y ganolfan astudiaethau Foslemaidd.
Mae’n siwr eu bod hwy a dipyn gwell crap ar Arabeg a mwy o gysylltiad teuluol, clos a Libya .
Efallai nad yw hapusrwydd pobl Libya a’u dathlu’n gweddu i
wasg adain-chwith sur Cymru.

§

Guto , Hydref 27, 2011 4:44 pm

Ho ho, yr hen asgell chwith sur ‘na, beth yn y byd sydd o’i le efo sodomeiddio rhywun efo polyn cyn ei saethu yn ei ben?

Wrth gwrs, mi wnaeth yr hen Gyrnol bethau gwaeth yn ei ddydd, ond nid surni sy’n peri pobl i betruso am drosglwyddiad treisgar yr awenau mewn gwledydd fel Libya.

Hefyd, mae’n debyg mai’r Bonwr W. Hague ddaru gymeradwyo archeb olaf Gaddaffi am arfau o Brydain, felly mi ddylai neo-ryddfrydwyr a’u tebyg sbio nes adra cyn pwyntio’r bys at yr asgell chwith.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.