Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Nato yn gadael pobol Libya i’w gwaith

Tachwedd 1, 2011 09:22



Mae lluoedd Nato wedi gadael Libya, ar ôl saith mis yn gwarchod yr awyr rhag awyrennau milwrol.

Mae’n bythefnos ers i’r cyn-unben, Muammar Gaddafi, gael ei ladd, ac mae Nato wedi penderfynu ei bod yn bryd gadael y wlad, er gwaetha’ galwadau gan y gynghrair wleidyddol yno i aros am rai wythnosau ymhellach.

Mae llwyddiant cymharol gyflym Nato wedi bod yn hwb mawr i’r corff a sefydlwyd yn ystod y Rhyfel Oer, yn enwedig ar ôl 10 mlynedd o frwydro yn Affghanistan, 12 mlynedd yn Kosovo, a rhagor o frwydro yn erbyn môr ladron ar arfordir Somalia.

Mae rhai, gan gynnwys Rwsia, wedi beirniadu Nato am ddefnyddio’u hawl cyfyng iawn i ‘warchod yr awyr’ er mwyn gwthio newid yn llywodraeth y wlad.

Ond mae Nato yn mynnu fod y llwyddiant yn perthyn i bawb.

“Gyda’n gilydd fe wnaethon ni lwyddo,” meddai pennaeth Nato Anders Fogh Ramussen mewn cynhadledd ar y cyd ag arweinydd dros-dro Libya, Mustafa Abdul Jalil, yn Nhirpoli.

‘Newid eich hanes’

Tra’n annerch pobol Libya, dywedodd eu bod nhw “wedi gweithredu i newid eich hanes a’ch tynged. Fe wnaethon ni weithredu er mwyn eich diogelu.”

Yn y saith mis diwethaf, mae Nato wedi hedfan 26,000 taith, gan gynnwys 9,600 o ymgyrchoedd ymosodol, gan ddinistrio dros 1,000 o danciau, cerbydau a gynnau.

Awyrennau o’r Unol Daleithiau oedd chwarter yr awyrennau hynny, gan gymryd rhan gefnogol yn y mwyafrif o achosion fel cadw golwg ar ardaloedd brwydro a chludo tanwydd, tra mai cynghreiriaid Ewrop oedd yn gyfrifol am ran fwyaf yr ymosodiadau ar y tir.

Wrth i Nato adael Libya neithiwr, fe gyhoeddodd y cyngor dros-dro eu bod nhw wedi penodi prif weinidog newydd, sef Abdurrahim el-Keib, sydd wedi derbyn ei addysg yn yr Unol Daleithiau. Fe fydd e’ nawr yn dewis ei lywodraeth ac yn paratoi tuag at etholiadau cyntaf y wlad.

Un o dasgau cyntaf y llywodraeth ddemocrataidd newydd fydd  creu cyfansoddiad newydd i’r wlad.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Tachwedd 1, 2011 11:42 am

“Mae rhai, gan gynnwys Rwsia, wedi beirniadu Nato am ddefnyddio’u hawl cyfyng iawn i ‘warchod yr awyr’ er mwyn gwthio newid yn llywodraeth y wlad.” Cewch fy nghynnwys i gyda Rwsia yn hyn o beth, er na gwarchod y boblogaeth oedd eu dyletswydd am wn i.

§| Nodi camddefnydd

Hefin , Tachwedd 1, 2011 2:33 pm

‘Gwarchod yr awyr’
Mae hynny’n un ffordd i’w rhoi hi. Yma mae llun o Sirte heddiw ar ol i Ffrainc, Prydain a’r Unol Daleithau orffen ‘gwarchod yr awyr’ i’r `rebeliaid` hyfryd yma sydd wrthi’n clirio’r wlad o bobl ddu mewn ffyrdd amrywiol.
http://www.bbc.co.uk/news/world-africa-15454033

§

Fon Gruffydd , Tachwedd 1, 2011 8:07 pm

Anders Fogh Rasmussen: diawl mewn croen. Fel prif weinidog Denmarc, cefnogodd y neocon adweithiol hwn George W. Bush i’r carn gan amddiffyn Guantanamo ac anfon milwyr Denmarc i ymladd yn Irac gan dod a chyfnod 100 mlynedd Denmarc o beidio anfon milwyr i ymladd mewn gwledydd tramor i ben. Roedd yn gefnogwr brwd i oresgyniad Affganistan hefyd. Ac rwan mae’r rhyfelgi asgell dde hwn yn arwain NATO ac yn brolio’r rhyfel erchyll ar Libya fel “un o’r rhai mwyaf llwyddianus yn hanes NATO”!

Dylai’r dyn fod yn sefyll ei brawf am droseddau rhyfel gyda’i gyfaill Bush a’i feistr newydd Obama. A dylai Golwg360 ymatal rhag cyhoeddi’n anfeirniadol adroddiadau sy’n darllen fel datganiadau i’r wasg gan NATO.

§| Nodi camddefnydd

CGT , Tachwedd 1, 2011 9:40 pm

Cymru rydd nesaf !

§

Fon Gruffydd , Tachwedd 2, 2011 12:17 am

“Cymru rydd nesaf”? Dyna joc sal. Duw a’n gwaredo rhag cael ein ‘rhyddhau’ gan NATO!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.