Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



UDA – dynes arall yn cyhuddo Cain o boenydio rhywiol

Tachwedd 7, 2011 17:19


Herman Cain Llun: Gage Skidmore
Mae dynes arall wedi cyhuddo Herman Cain,  sy’n ceisio ennill enwebiad y Gweriniaethwyr ar gyfer ras arlywyddol 2012 yr Unol Daleithiau, o’i phoenydio yn rhywiol.

Dyma’r pedwerydd dynes i gyhuddo Herman Cain o’i phoenydio yn rhywiol.

Gwefan Politico sydd wedi cyhoeddi’r honiadau, gydag adroddiadau fod y ddwy ddynes gyntaf wedi gwneud cwynion swyddogol yn erbyn y cyn ŵr-busnes, cyn i drydedd ddynes ddod ymlaen i ddweud ei bod hithau hefyd wedi cael ei phoenydio ganddo, ond nad oedd hi am gymryd camau pellach.

Mae’r menywod i gyd wedi dweud bod Herman Cain wedi ymddwyn yn amhriodol tuag atyn nhw yn ystod eu cyfnod yn y Gymdeithas Bwytai Cenedlaethol yn y 1990au hwyr.

Mae Herman Cain wedi gwadu’r honiadau, ac fe ddywedodd ddydd Sadwrn na fyddai’n fodlon ateb rhagor o gwestiynau ar y mater.

Hyd yn hyn, mae’r dacteg wedi talu ffordd i Herman Cain, sydd wedi llwyddo i gadw’i le yn y polau piniwn, ac wedi llwyddo i godi llawer iawn mwy o gyfraniadau ariannol i’w ymgyrch ers i’r newyddion dorri.

Daw’r sgandal dros weithgareddau preifat Herman Cain llai na deufis cyn i’r Gweriniaethwyr fwrw’u pleidlais dros bwy fydd yn cael ei ddewis i gynrychioli’r blaid yn erbyn Barack Obama am yr arlywyddiaeth yn 2012.

Ar hyn o bryd, mae Herman Cain i’w weld yn her gwirioneddol i’r un a fu’n ddewis amlwg i’r blaid yn ystod y misoedd diwethaf, Mitt Romney, ac mae’n ymddangos fod y sylw diweddar wedi gwneud llawer i godi proffil y newydd-ddyfodiad i wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.