Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Mab Gaddafi yn y ddalfa

Tachwedd 19, 2011 14:06


Seif Al-Islam
Mae mab Muammar Gaddfi, Seif al-Islam, wedi ei ddal heddiw wrth deithio ar draws anialwch deheuol Libya.

Dywedodd llefarydd ar ran y rhyfelwyr a ddaeth o hyd iddo fod Seif al-Islam tua 30 milltir i’r gorllewin o dref Obari ac yn ceisio ffoi o i Niger gerllaw.

Roedd y Llys Troseddol Rhyngwladol wedi cyhuddo Gaddafi, Seif al-Islam a chyn-bennaeth cudd-wybodaeth Libya, Abdullah al-Senoussi, o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth.

Yn dilyn marwolaeth Gaddafi a chaethiwo Seif al-Islam dim ond Abdullah al-Senoussi sydd bellach ar ffo.

Mae teledu Libya wedi cyhoeddi llun o Seif al-Islam yn y ddalfa. Mae’n eistedd ar wely ac yn dal tri bys wedi’u rhwymo, gan arwain at ddyfalu ei fod wedi colli rhan o’i fysedd yn ystod y brwydro.

Dywedodd Mohammed al-Alagi, gweinidog cyfiawnder y llywodraeth newydd, fod Seif al-Islam yn cael ei gadw yn nhref Zintan ond y byddai yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r brifddinas Tripoli yn fuan.

Mae Seif al-Islam Gaddafi yn 39 oed ac ef yw plentyn hynaf  Muammar Gaddafi o’i ail briodas â Safiya Gaddafi. Mae’n un o wyth o blant.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.