Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Rwsia yn bygwth targedu systemau amddiffyn UDA

Tachwedd 23, 2011 16:18



Mae Rwsia wedi bygwth dinistrio systemau amddiffyn yr Unol Daleithiau yn Ewrop gyda thaflegrau os yw Washinton yn bwrw ymlaen â chynlluniau i greu tarian amddiffynnol iddyn nhw eu hunain yn Ewrop, meddai’r arlywydd Dimitry Medvedev heddiw.

Mae Rwsia wedi bygwth gosod taflegrau yn y darn mwyaf gorllewinol o Kaliningrad ac ar draws y wlad os nad yw Rwsia a Nato yn llwyddo i ddod i gytundeb dros y cynlluniau amddiffyn sy’n cael eu harwain gan yr Unol Daleithiau, meddai’r arlywydd.

Mae Rwsia yn ystyried y cynlluniau i greu tarian amddiffynnol yn erbyn taflegrau ymosodol i fod yn fygythiad i’w grymoedd niwclear, ond mae Obama yn mynnu eu bod nhw i fod i atal unrhyw fygythiad gan Iran.

Mae Mocscow wedi cytuno i ystyried cynigion Nato i gyd-weithio ar y darian amddiffynnol, ond mae trafodaethau wedi dod i stop ynglŷn â’r modd y dylai’r system weithio.

Mae Rwsia yn mynnu y dylai’r system gael ei redeg ar y cyd – cynnig sydd wedi ei wrthod gan Nato.

Mae cynlluniau’r Unol Daleithiau yn ymwneud â gosod systemau radar ar dir a môr ac atalwyr mewn lleoliadau ar draws Ewrop yn ystod y ddegawd nesaf, a’u diweddaru dros gyfnod o amser.

Ond mae Dimitri Medvedev wedi rhybuddio y bydd yn gosod taflegrau ac arfau ar draws Rwsia er mwyn targedu systemau amddiffyn yr Unol Daleithiau os yw’r cynllun yn mynd ymlaen fel y mae ar hyn o bryd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Tachwedd 23, 2011 4:33 pm

Ble mae Mocscow?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.