Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Rocedi’n cael eu saethu at Ogledd Israel

Tachwedd 29, 2011 08:14



Mae rocedi wedi cael eu saethu at ogledd Israel o gyfeiriad Lebanon, ac mae o leia’ dau ohonyn nhw wedi taro tir Israelaidd, yn ôl lluoedd Israel.

Cafodd y tri roced eu tanio yn gynharach y bore ’ma – y rhai cyntaf  o Lebanon ers Hydref 2009.

Dyw hi ddim yn ymddangos fod neb wedi cael eu hanafu  hyd yn hyn.

Dyw lluoedd Israel yn dweud dim ynglyn â phwy sy’n cael eu hamau o danio’r rocedi. Ond maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw’n disgwyl i’r digwyddiad fod yn ddechreuad ar wrthdaro ehangach.

Ond yn eu datganiad, dywedodd lluoedd Israel fod yr ymosodiad yn un “difrifol”.

Yn ôl y cyfryngau lleol, dyma’r wythfed ymosodiad  ers i ryfel Israel â byddin Hezbollah yn Lebanon ddod i ben yn Awst 2006.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.