Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Arweinydd Gogledd Corea yn marw

Rhagfyr 19, 2011 07:43, Diweddarwyd am 08:31


Kim Jong Il, chwith, gyda'i dad Kim Il Sung
Mae Gogledd Corea wedi cyhoeddi bod eu harweinydd Kim Jong Il wedi marw yn 69 oed ar ôl cael trawiad ar y galon.

Mewn darllediad arbennig ar deledu’r wlad o’r brifddinas Pyongyang, cyhoeddwyd bod Kim wedi marw ar drên yn ystod ymweliad ar 17 Rhagfyr.

Yn ôl yr adroddiadau, cafodd post mortem ei gynnal ar Rhagfyr 18 oedd yn cadarnhau’r diagnosis.

Credir bod Kim wedi cael strôc yn 2008 ond roedd yn ymddangos yn iach yn ystod ymweliadau diweddar â China a Rwsia, ac yn ystod nifer o ymweliadau ar draws  y wlad.

Yn y darllediad, dywedodd y cyflwynydd mai “dyma’r golled fwyaf i’r blaid… dyma’r tristwch mwyaf i’n pobl a’n cenedl.”

Yn dilyn ei farwolaeth, cyhoeddwyd ar deledu De Corea bod byddin Seoul ar eu gwyliadwriaeth a bod yr Arlywydd Lee Myung-bak wedi cynnal cyfarfod brys o’r cyngor diogelwch yn dilyn y newyddion.

Mae na bryder yn rhyngwladol am ansefydlogrwydd yn y rhanbarth a dywedodd llefarydd ar ran y Ty Gwyn eu bod yn cadw llygad ar y sefyllfa. Mae cynlluniau niwclear Gogledd Corea wedi peri pryder, ac mae na ofnau y bydd y rhwyg rhwng y de a’r gogledd yn gwaethygu yn dilyn y newyddion.

Roedd Kim Jong Il wedi dod yn arweinydd y wlad Gomiwnyddol yn dilyn marwolaeth ei dad, Kim Il Sung ym 1994.

Ym mis Medi 2010, roedd Kim Jong Il wedi cyhoeddi mai ei fab Kim Jong Un, sydd yn ei ugeiniau, fyddai ei olynydd.

Roedd pobl Gogledd Corea yn eu dagrau ar ôl clywed am farwolaeth eu harweinydd ac roedd cyfranddaliadau ar y farchnad stoc yn Asia wedi gostwng yn dilyn  y newyddion.

Fe fydd na gyfnod o alaru cenedlaethol hyd 29  Rhagfyr a bydd angladd Kim yn cael ei gynnal ar 28 Rhagfyr.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rebal , Rhagfyr 19, 2011 7:30 pm

Gobeithio fod pen call ar ei fab o, achos da ni ddim isho rhyfel niwclear rwan!!

§| Nodi camddefnydd

Jones , Rhagfyr 20, 2011 4:39 pm

Dydion od bod America digon bodlon mynd i fewn i Irac ond ddim i Gog Korea.

Ar pwynt hollol wahanol- oes not o olew yn Gog Korea?

§| Nodi camddefnydd

CGT , Rhagfyr 20, 2011 5:07 pm

Mae Gogledd Corea gydag adnoddau crai cyfoethog iawn – cyn y rhyfel , y De oedd yn wledig a’r Gogledd yn ddatblygiedig.

§| Nodi camddefnydd

Tom , Rhagfyr 21, 2011 7:38 am

CGT- yn anffodus wedyn digwyddodd y rhyfel a chafodd popeth eu dinistrio!

Mae pobl aml yn anghofio hefyd fod y Gogledd yn fwy datblygiedig tan yr 80au cynnar!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.