
Mae o leia tri o bobl wedi eu lladd yn yr Unol Daleithiau ar ôl i awyren fechan oedd ar ei ffordd i Georgia, ddod i lawr ar un o ffyrdd mwyaf prysur Efrog Newydd.
Dywed yr heddlu bod tri bobl wedi marw yn y ddamwain ar Interstate 287 yn Harding, New Jersey, ond fe allai’r nifer godi i fwy na phump.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd os oedd rhai pobl yn teithio ar y ffordd wedi eu lladd.
Yn ôl llygad dystion roedd yr awyren Socata TBM-700 allan o reolaeth ychydig cyn iddi daro’r ddaear a ffrwydro.