Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Gogledd Korea’n ffarwelio â Kim Jong Il

Rhagfyr 28, 2011 12:59, Diweddarwyd am 18:18


Angladd Kim Jong Il yn Pyongyang heddiw (AP Photo)
Mae degau o filoedd o drigolion Gogledd Korea yn galaru ar strydoedd y brifddinas Pyongyang heddiw yn angladd gwladol yr arweinydd Kim Jong Il.

Yn arwain yr osgordd angladdol mae ei fab, Kim Jong Un, gan gerdded gydag un llaw ar yr hers, a’r llaw arall wedi ei chodi mewn saliwt.

Mae hyn yn arwydd clir pellach mai ef yw’r arweinydd newydd, ar ôl i gyfryngau’r wladwriaeth gyfeirio’n gyson ato dros yr wythnos ddiwethaf fel ‘yr olynydd mawr’ a’r ‘goruchaf arweinydd’. Ef fydd trydedd genhedlaeth y teulu sydd wedi llywodraethu’r wlad yn ddilyffethair ers 60 mlynedd.

Dros y 10 diwrnod diwethaf, mae cannoedd o filoedd o drigolion y wlad wedi bod heibio i arch Kim Jong Il ym mhrif sgwâr y ddinas.

Mae’r galarwyr wedi bod yn sefyll yn yr eira heb ddim byd am eu pennau, gyda llawer yn sgrechian a chwifio’u breichiau wrth i filwyr ymdrechu i’w cadw ar y pafin.

 “Sut y gall yr awyr beidio ag wylo?” oedd cri un milwr yn yr eira ar deledu’r wlad. “Mae’r bobl … i gyd yn wylo dagrau o waed.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Hirben , Rhagfyr 28, 2011 7:40 pm

“Galaru”? Ni welais i yr un deigryn

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Rhagfyr 28, 2011 8:21 pm

Nid galar mohono, teimlad emosiynol dwfn sydd yn effeithio ar rywun yn seicolegol ac yn gorfforol yw galar.

Hysteria Cenedlaethol sydd fan hyn!

§| Nodi camddefnydd

Jones , Rhagfyr 28, 2011 10:40 pm

Dwnim pam bod lot yn deud ei fod on od. Pan nath Diana farw yma, oedd o bron yn angyfreithlon deud wbath heb law pa mor drist ydio.

Dwi’n teimlo weithiau bod y cyfryngau yn deud i ni sut i deimlo ag os da ni ddim yn teimlo fel hyn- danin bobl di-galon.

(un enhgraifft ydy heddiw yn y Daily Mail: dal yn son ar sut nath y BBC adael i’r cyflwynydd wisgo tei piws yn lle un du pan nath y Queen Mother farw).

§| Nodi camddefnydd

Benjiman , Rhagfyr 29, 2011 1:11 am

Jones… Dwi’n hollol o’r un barn.

§| Nodi camddefnydd

Cymrodor , Rhagfyr 29, 2011 7:08 am

Er ei fod yn edrych yn ormodol i ni, mae’r fath o emosiwn a dagrau’r un mor amlwg yma yn y De gan bobl sy’n colli plentyn neu rywun arall mewn amgylchiadau annisgwyl. Wrth ystyried bod pobl y Gogledd wedi’i magu gyda’r gred bod Kim Jong-il, a’i dad gynt, yn arweinydd arbennig, mae’n gyfan gwbl bosib eu bod yn gweld y golled fel un enfawr. Rhaid cofio mae trigolion y brif ddinas gwelwn yn yr angladd – pobl sydd wedi eu dewis i fyw yno ac wedi cael bywyd cymharol o foethus oherwydd, credan nhw, y cyn arweinydd.

O, a Corea efo C, plîs. Mae ‘na ymgyrchoedd yma i newid y sillaf Saesneg yn ôl i’r hen arfer o ddechrau gyda C ac os edrychwch ar luniau o gefnogwyr pêl droed y wlad, gwelwch fod ‘Corea’ yn llawer mwy amlwg na ‘Korea’. Mae’n hurt i’w sillafu yn Gymraeg gyda K.

§| Nodi camddefnydd

Jones , Rhagfyr 29, 2011 1:08 pm

Yn yr hen Gymraeg roedd K, pam ddim dod a fo’n nol?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.