Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Seiclon yn lladd 11 yn India

Rhagfyr 30, 2011 13:40, Diweddarwyd am 13:42


Mae o leiaf 11 o bobol wedi eu lladd wrth i seiclon daro arfordir de-ddwyreiniol India.

Roedd gwyntoedd cryfion yn mesur 85 milltir yr awr wedi codi coed o’u gwreiddiau a chwalu cartrefi.

Roedd Seiclon Thane wedi’i angori yng nghefnfor yr India, 22 milltir i’r de-orllewin o dref Pondicherry.

Cafodd y rhan fwyaf o’r 11 eu lladd wrth i waliau ddymchwel a thrwy drydanladdiad, meddai swyddog.

Bu’r tywydd garw yn fwrn ar drenau ac awyrennau’r rhanbarth hefyd.

Dywedodd swyddfa’r tywydd bod disgwyl i’r moroedd ffyrnigo ar hyd arfordir Pondicherry a’r cyffiniau, a rhoddwyd rhybudd i bysgotwyr beidio â meiddio mentro allan.

Y disgwyl yw y bydd y storm yn gostegu a symud i’r gorllewin.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.