Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Yr UDA yn cyhoeddi sancsiynnau llym yn erbyn Iran

Ionawr 1, 2012 15:19


Barack Obama
Mae yr Arlywydd Obama wedi arwyddo mesur amddiffyn newydd sydd yn cyfreithloni cyfres o sancsiynnau llym yn erbyn Iran.

O hyn allan ni fydd unrhyw gwmni o dramor sy’n masnachu efo banc canolog Iran yn cael defnyddio system ariannol yr UDA.

Mae’r Arlywydd eisoes wedi dweud ei fod yn poeni y gall hyn effeithio ar y diwydiant olew mewn cyfnod o gynni economaidd a gelyniaethau rhai o gyngrheiriaid y wlad.

Fe wnaeth llywodraeth Iran ymateb yn chwyrn i adroddiadau yr wythnos diwethaf bod sancsiynnau allai effeithio ar ddiwydiannau olew a bancio’r wlad ar y gweill.

Pryd hynny fe wnaeth y llwyodraeth yn Tehran fygwth cau culfor Hormuz sy’n cysylltu y Gwlff a chefnfor India. Mae 20% o olew y byd yn teithio ar hyd y culfor yma.

Yn y cyfamser mae asiantaeth newyddion swyddogol Iran wedi cadarnhau eu bod wedi llwyddo i saethu taflegryn cyrhaeddiad canolig o’r tir i’r awyr yn ystod cyfres o ymarferiadau militaraidd yn y Gwlff.

Mae hyn yn sicr o bryderu arweinwyr rhai o wledydd y gorllewin, gan gynnwys yr Arlywyddd Obama. sy’n poeni bod Tehran yn ceisio datblygu arfau niwcliar.

Mae Iran ar y llaw arall yn mynnu ei bod yn datblygu ynni niwcliar am resymau yn ymwenud ag ynni a meddygaeth ac nid er mwyn creu arfau.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Fon Gruffydd , Ionawr 1, 2012 5:25 pm

Pryd gawn ni ‘sancsiynau llym’ yn erbyn Israel? Chwi wyddoch yr ateb. Rwan mae’r llwyfan bron iawn yn barod ar gyfer Rhyfel Mawr y Dwyrain Canol 2012.

§| Nodi camddefnydd

Benjiman , Ionawr 4, 2012 3:17 pm

Dwi’n hollol embaras dros fy Ngwlad a’i pholisi rhwngwladol.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.