Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llynges yr UDA yn ymchwilio i fideo

Ionawr 12, 2012 10:55


Mae Llynges yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod yn ymchwilio i fideo sy’n dangos pedwar milwr yn gollwng dwr ar gyrff meirw gwrthryfelwyr y Taliban.

Mewn datganiad, mae’r Llynges wedi dweud nad ydyn nhw wedi dilysu tarddiad neu ddilysrwydd y fideo YouTube eto.

Maen nhw hefyd wedi dweud nad yw’r gweithredoedd yn y fideo yn portreadu “gwerthoedd” y Llynges.

Os yw’r fideo yn cael ei ddilysu, gallai greu adwaith cryf yn y byd Mwslemaidd a thu hwnt gyda’r gweithredoedd amharchus y mae’n portreadu.

Fe fydd yr achos nawr yn cael ei basio i Wasanaeth Ymchwilio Trosedd y Llynges.

Mae’r Cyngor Cysylltiadau Islamaidd-Americanaidd, grŵp hawliau sifil Mwslemaidd amlwg sydd wedi’i leoli yn Washington, wedi condemnio’r fideo.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Llynges, Is-gyrnol Stewart Upton: “Mae honiadau o filwyr y llynges sydd ddim yn  gwneud y peth cywir gyda chyrff gwrthryfelwyr Taliban yn ddifrifol iawn. Os yw’n cael ei brofi, mae’n cynrychioli methiant i gadw at y safonau uchel a ddisgwylir o bersonél milwrol Americanaidd,” meddai.

Yn ôl llefarydd ar ran y Pentagon,  Capten Llynges John Kirby, mae’r fideo yn “peri pryder mawr.”

Nid yw’n glir pwy wnaeth ffilmio’r fideo na phwy bostiodd y fideo ar-lein.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.