Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Roedd gan Gaddafi arfau cemegol’

Ionawr 21, 2012 14:26


Muammar Gaddafi
Roedd gan unben Libya, Muammar Gaddafi, stoc bentwr o arfau cemegol, yn ôl archwilwyr rhyngwladol.

Dywedodd y Corff Er Mwyn Atal Arfau Cemegol fod archwilwyr wedi bod yn Libya’r wythnos hon ac wedi dod o hyd i sieliau nwy mwstard.

“Maen nhw’n arfau rhyfel cemegol,” medden nhw. Doedden nhw ddim yn cynnwys nwy mwstard ar y pryd ond dyna oedd diben eu creu nhw, meddai’r corff.

Roedd arweinwyr newydd Libya wedi rhoi gwybod i’r corff am y cemegau y llynedd ar ôl dymchwel Gaddafi.

Cafodd ei ladd ym mis Hydref ar ôl cael ei ddal gan wrthryfelwyr.

Roedd Muammar Gaddafi wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau rhyngwladol fod ganddo arfau cemegol yn 2004 wrth iddo geisio ail-adeiladu ei berthynas â gwledydd y gorllewin.

Roedd Libya wedi addo dinistrio eu harfau cemegol erbyn 29 Ebrill eleni.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.