
Cafodd naw o bobl eu lladd ar ol i yrrwr bws yn India “fynd yn wallgof” a gyrru drwy strydoedd llawn pobl gan eu taro i’r llawr, meddai’r heddlu.
Fe gafodd 27 person arall eu hanafu yn y digwyddiad yn ninas Pune cyn i’r heddlu arestio’r gyrrwr bws 30 blwydd oed.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa gan yr Heddlu ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Yn ôl Meeran Borwankar, swyddog heddlu yn ninas Pune – roedd y gyrrwr yn un trwyddedig ond fe “aeth yn wallgof.”
Roedd Ymddiriedolaeth y Wasg India wedi dilyn y bws am awr wrth iddo daro i mewn i geir a phobl yn cerdded ar hyd y strydoedd.
Roedd swyddogion heddlu traffig wedi ceisio saethu at y bws mewn ymdrech i’w stopio.
Dyw swyddogion ddim wedi son am gymhelliant posibl i’r digwyddiad eto.
Ond, mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio’r digwyddiad.