
YrArlywydd Hamid Karzai
Mae Arlywydd Affganistan Hamid Karzai yn bwriadu cyfarfod y Taliban yn Saudi Arabi yn ystod yr wythnosau nesaf cyn i’r Taliban sefydlu swyddfa yn Quatar.
Mae swyddogion y llywodraeth yn Affganistan wedi cadarnhau bod hyn ar y gweill er bod y Taliban wedi gwrthod cydnabod llywodraeth yr Arlywydd Karzai yn y gorffennol.
Dyw’r Taliban ddim wedi gwneud unrhyw sylw ar y mater hyd yn hyn. Mae nhw wedi datgan yn y gorffennol mai dim ond efo yr UDA a chyngrheiriaid eraill llwyodraeth Kabul y mae nhw’n fodlon trafod
Roedd yr Arlywydd Karzai hefyd yn flin bod yr Americanwyr a llywodraeth Qatar wedi ceisio rhoi proses heddwch ar y gweill heb ymgynghori yn llawn efo’i lywodraeth ef.
Dywed diplomyddion yn Kabul beth bynnag na fydd yna gytundeb gwleidyddol yn Affganistan am flynyddoedd eto ac mai ychydig iawn o obaith sydd yna y bydd yr ymladd yn y wlad yn dod i ben.