Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llong yn suddo gyda 350 o deithwyr

Chwefror 2, 2012 10:04


Mae bron i 240 o bobl wedi cael eu hachub ar ôl i long fferi suddo yn Papua New Guinea gyda oddeutu 350 o bobl ar ei bwrdd.

Mae awyren o Awstralia, tri hofrennydd ac wyth llong wedi dechrau chwilio’r ardal ar ôl i’r MV Rabaul Queen suddo ar doriad gwawr tra’n teithio o Kimbe ar ynys New Britain i ddinas Lae ar y brif ynys, yn ôl Awdurdod Morwrol Awstralia.

Dywedodd Prif Weinidog Papua New Guinea Peter O’Neill nad yw achos y ddamwain  yn hysbys.

Yn ôl rhai adroddiadau roedd y rhan fwyaf o’r teithwyr ar y llong yn fyfyrwyr ac athrawon dan hyfforddiant.

Mae’r chwilio yn parhau.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.