Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Eifftwyr yn beio’r heddlu am fethu ag atal terfysg

Chwefror 2, 2012 18:24


Mae nifer o Eifftwyr yn beio’r heddlu am fethu ag atal terfysg mewn gem bel-droed lle roedd 74 o bobl wedi marw.

Cafodd nifer o gefnogwyr eu lladd yn y rhuthr i adael y stadiwm tra bod eraill wedi cael eu trywanu.

Yn ystod sesiwn brys o’r senedd fe gyhoeddodd y Prif Weinidog  Kamal el-Ganzouri bod pob aelod o Gymdeithas Bel-Droed y wlad wedi cael eu diswyddo ac fe fydd yr aelodau yn cael eu holi ynglŷn â’r trafferthion.

Dywedodd hefyd bod llywodraethwr talaith Port Said a phennaeth yr heddlu yn yr ardal wedi ymddiswyddo.

Mae rhai wedi cyhuddo’r heddlu o beidio ag ymyrryd i geisio atal y terfysg.

Fe ddechreuodd y terfysg ar ôl i ddegau o gefnogwyr redeg ar y maes chwarae yn dilyn y gem yn Port Said ar ôl i’r tîm cartref, Al-Masry, golli yn erbyn un o brif glybiau’r wlad Al-Ahly, sydd wedi eu lleoli yn Cairo.

Cairo

Yn Cairo, roedd cefnogwyr oedd wedi eu cythruddo ar ôl i’r gem yno gael ei ganslo oherwydd y trafferthion yn Port Said, wedi rhoi’r stadiwm ar dân. Ni chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad yno.

Roedd yn bennod waedlyd arall yn hanes y wlad bron i flwyddyn ar ôl i’r cyn Arlywydd Hosni Mubarak gael ei ddisodli.

Mae tridiau o alaru wedi cael ei gyhoeddi yn y wlad heddiw.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.