Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cyn Arlywydd y Maldives wedi cael ei ‘orfodi i ymddiswyddo’

Chwefror 8, 2012 13:30


Arlywydd newydd y Maldives, Mohammed Waheed Hassan
Mae cyn Arlywydd y Maldives, Mohamed Nasheed, wedi dweud ei fod wedi cael ei orfodi o’i swydd ac mae wedi galw ar ei olynydd i ymddiswyddo ar unwaith.

Cafodd Mohamed Nasheed gymeradwyaeth wrth iddo annerch torf o 2,000 o aelodau o’i blaid yn y brifddinas Male, ddiwrnod ar ôl iddo ymddiswyddo pan ymunodd yr heddlu â phrotestwyr yn erbyn ei lywodraeth ar strydoedd y brifddinas.

Cafodd ei olynu gan ei gyn  is-lywydd Mohammed Waheed Hassan sy’n gwadu honiadau bod na gynllwyn i ddisodli Mohamed Nasheed.

Mae Plaid Ddemocrataidd y Maldives wedi datgan mai Mohamed Nasheed  yw ei harweinydd ac mae nhw wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n ymuno â chlymblaid.

Mae Nasheed wedi galw ar farnwr i gynnal ymchwiliad i’r rhai mae o’n honni sy’n gyfrifol am ei ddisodli.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.