Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Arlywydd yr Almaen yn ymddiswyddo

Chwefror 17, 2012 12:24


Christian Wulff
Mae Arlywydd yr Almaen, Christian Wulff, wedi penderfynu rhoi’r ffidil yn y to yn dilyn honiadau ei fod wedi derbyn cymwynasau cyn iddo gael ei ethol.

Mae’r penderfyniad yn un ffwdanus i’r Canghellor, Angela Markel, a fydd yn gorfod dewis olynydd wrth geisio datrys problemau ariannol parth yr Ewro.

Cyhoeddodd Christian Wulff ei fod yn ymddiswyddo heddiw ar ôl i erlynyddion wneud cais i’r Senedd iddo golli ei imiwnedd.

Mae’n rhoi’r gorau iddi ar ôl llai na dwy flynedd yn y swydd. Ef oedd ymgeisydd Angela Markel i’r swydd yn 2010.

Bydd yn rhai i gynulliad seneddol y wlad ethol olynydd o fewn 30 diwrnod.

Dywedodd erlynyddion eu bod nhw’n amau bod Wulff wedi derbyn buddion amhriodol gan gynhyrchydd ffilmiau.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i ymddiswyddo dywedodd Christian Wulff fod angen arlywydd “y mae’r mwyafrif yn gallu ymddiried ynddo”.

Cyn cael ei ethol yn arlywydd roedd Wulff yn ddirprwy arweinydd plaid geidwadol Angela Markel.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.