Yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi rhybuddio y gallai cynlluniau niwclear Iran achosi ‘Rhyfel Oer newydd’ yn y Dwyrain Canol.
Mae’n rhagweld ras arfau niwclear ymysg gwledydd y Dwyrain Canol a allai fod yn fwy peryglus na’r hen elyniaeth rhwng y Gorllewin a’r Undeb Sofietaidd.
“Mae’n amlwg fod Iran yn parhau â’u rhaglen arfau niwclear,” meddai William Hague.
“Os ydyn nhw’n llwyddo i ddatblygu arfau niwclear, yna fe fydd ar wledydd eraill ledled y Dwyrain Canol eisiau datblygu arfau niwclear.
“Ac felly, fe fyddwn ni’n gweld y bygythiad o Ryfel Oer newydd yn y Dwyrain Canol heb unrhyw fecanweithiau diogelwch o angenrheidrwydd. Byddai hynny’n drychineb mewn materion rhyngwladol.”
Mae ofnau cynyddol na fydd sancsiynau’n llwyddo i roi unrhyw berswâd ar arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad i roi’r gorau i’w raglen niwclear.
Ond er bod William Hague yn dadlau bod angen cadw pob dewis yn agored o ran mynd i’r afael â’r broblem, mae’n pwysleisio nad yw Prydain yn ffafrio unrhyw ymosodiad ar Iran ar hyn o bryd.