Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Latvia’n gwrthod statws swyddogol i’r Rwseg

Chwefror 19, 2012 17:01


Un o etholwyr y wlad yn bwrw ei phleidlais mewn gorsaf bleidleisio yn Riga, prifddinas Latvia, ddoe (Roman Koksarov / Associated Press )
Mae mwyafrif llethol o etholwyr Latvia wedi pleidleisio yn erbyn gwneud y Rwseg yn iaith swyddogol yn y wlad.

Mewn refferendwm ddoe pleidleisiodd tua 75% yn erbyn y cynnig, ac roedd y gyfran uchel – 70% – a drodd allan i bleidleisio’n sylweddol uwch nag mewn etholiadau arferol. Roedd ciwiau hir o bobl i’w gweld y tu allan i orsafoedd pleidleisio ledled y wlad.

Roedd y refferendwm wedi cael ei alw gan fudiad sy’n ymgyrchu dros hawliau’r traean o’r dwy filiwn o bobl y wlad sy’n siarad y Rwseg fel mamiaith.

I’r Latviaid cynhenid, roedd y bleidlais yn cael ei gweld fel ymgais i sathru ar annibyniaeth y wlad. Dywedodd un etholwraig iddi bleidleisio Na gan fod y Latveg yn rhan annatod o hunaniaeth genedlaethol y wlad, ac y dylai felly barhau fel yr unig iaith swyddogol.

Fodd bynnag, roedd mwyafrif o bleidleiswyr yn rhanbarth Latgale yn nwyrain y wlad, sy’n ffinio â Rwsia, o blaid newid y cyfansoddiad i gydnabod y Rwseg fel iaith genedlaethol. Dyma ranbarth tlotaf Latvia ac mae’n cynnwys canran uchel o Rwsiaid ethnig a lleiafrifoedd eraill.

Yn ôl cyfraith y wlad, rhaid i unrhyw un a symudodd i Latvia yn ystod cyfnod yr Undeb Sofietaidd, neu blant i rieni a symudodd yno, basio arholiad mewn Latveg cyn dod yn ddinesydd a chael yr hawl i bleidleisio.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Wil , Chwefror 19, 2012 6:33 pm

Da iawn Latfia. Mae gan y Rwsiaid 11 time zone lle Rwsieqg yw’r iaith swyddogol. Faint o Lebensraum ieithyddol mae Rwsieg ei hangen!?

Mae ysgolion Rwsieg yn Latfia, dyna’r oll sydd angen iddynt wneud yw dysgu ail iaith – Latfieg.

A chyn i’r wasg Brydeinig gwyno, does dim hawl i Gymro fod yn uniaith Gymraeg. Does dim statws nac ysgolion gwladol iaith dramor yn Lloegr a byddai dim modd bod yn ddinesig Brydeinigewn unrhyw fodd ystyrlon heb allu siarad Saesneg. Ac wrth gwrs, petai Prydain wedi ei choncro gan y Naziaid a’r Almaenwyr wedi sefyll yma a fyddai’r Brits yn barod iddynt dderbyn dinasyddiaeth heb ddysgu Saesneg? Dim gobaith caneri.

Yn wahanol i sefyllfa’r Gymraeg, dydy nifer siaradwyr Latfieg ddim yn gostwng. Maent yn dangos hunan barch ac asgwrn cefn. Da iawn Latfia.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.