
Vladimir Putin
Mae gwasanaethau newyddion llywodraeth Rwsia yn dweud bod ymgais i ladd Prif Weinidog Rwsia, Vladimir Putin, wedi’i atal.
Dydd Sul nesaf bydd etholiad yn cael gynnal i ethol arlywydd nesaf Rwsia, a Putin yw’r ffefryn clir i adennill yr arlywyddiaeth.
Yn ôl teledu Rwsia cafodd grŵp o ddynion eu harestio ym mhorthladd Odessa yn yr Wcrain oedd yn bwriadu lladd Putin yn syth wedi’r etholiad arlywyddol. Ffrwydrodd bom yn ddamweiniol mewn fflat yn Odessa a arweiniodd yr awdurdodau at y grŵp terfysgol.
Cadarnhaodd llefarydd Putin, Dmitry Peskov, yr adroddiad ond ni wnaeth sylw pellach. Adroddodd Sianel 1 Rwsia fod dau aelod o’r grŵp terfysgol wedi cyrraedd yr Wcrain o’r Emiradau Arabaidd Unedig dan gyfarwyddiadau gwrthryfelwr Chechen o’r enw Doku Umarov.
Lladdwyd un Chechen yn y ffrwydrad yn Odessa, ac anafwyd un arall. Arestiwyd Chechen arall, Adam Osmayev, a gafodd gyfweliad o’i gell ar Sianel 1.
“Ein bwriad oedd mynd i Fosgo i geisio lladd y Prif Weinidog Putin,” meddai Osmayev. “Yr amser penodedig oedd yn syth wedi’r etholiad arlywyddol yn Rwsia.”
Vladimir Putin yw’r ceffyl blaen yn y ras arlywyddol yn ôl y polau piniwn, er gwaethaf protestiadau ar strydoedd Mosgo yn erbyn ei arweinyddiaeth.
Sail bwysig i’w boblogrwydd yw ei allu i ddefnyddio gorsafoedd teledu’r wladwriaeth i’w bortreadu fel amddiffynnwr y genedl, ac mae ei wrthwynebwyr wedi codi amheuaeth ynghylch y stori ddiweddaraf a’i amseriad.