Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Israel am godi 3,000 o dai i ymsefydlwyr

Tachwedd 30, 2012 18:25


Mae Israel yn mynd i godi 3,000 o dai ar gyfer ymsefydlwyr ar y Lan Orllewinol ar ôl i Balesteina gael ei chydnabod ddoe gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r tai mewn ardal sy’n destun cecru yn nwyrain Jerusalem, ac os aiff y cynllun yn ei flaen mae Palestiniaid yn dadlau y bydd yn rhannu eu tiriogaeth ar y Lan Orllewinol yn ddwy.

Mae’r penderfyniad i roi sêl bendith i godi’r tai yn cael ei ystyried yn fynegiant o ddicter Israel dros bleidlais y Cenhedloedd Unedig o blaid rhoi statws gwladwriaeth i Balesteina.

Dywedodd Israel fod y bleidlais ddoe yn “ergyd i heddwch” tra bod yr Arlywydd Palesteinaidd Mahmoud Abbas wedi dweud fod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi “tystysgrif geni” i wladwriaeth Balestinaidd.

Mae codi tai i ymsefydlwyr yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy ochr ac mae trafodaethau heddwch wedi cael eu hatal ers pedair blynedd am fod Palestiniaid yn gwrthod trafod tra bod Israel yn parhau i adeiladu.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Guto , Rhagfyr 3, 2012 9:08 am

Does dim stop ar eu torcyfraith rhyngwladol. A pha gymhelliant sydd i’r dihirod hyn stopio tirfeddianu cenedl arall tra bo’r UDA a’i gweision bach yn sefyll ochr yn ochr a nhw, boed drwy gefnogi eu torcyfraith drwy arian, arfau neu pleidleisiau yn y CU?

Gydag Israel yn cael gwneud fel y mynnent, oes unrhyw syndod bod grwpiau fel Hamas yn troi at ddulliau desperate fel saethu rocedi tan gwyllt mewn i Israel (rocedi tan gwyllt o gymharu a’r rocedi a’r bomiau mae Israel yn defnyddio yn erbyn y Palasteiniaid).

§| Nodi camddefnydd

Gail Bach, Felinheli , Rhagfyr 6, 2012 5:23 pm

Mae cardod yn dechrau adref. Mae gennym ni i gyd ddigonedd o bynciau llosg, pwysig yn nes adref i ganolbwyntio arnyn’ nhw.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.