Fietnam
Fe gafodd pedwar o blant eu lladd gan ffrwydryn yn Fietnam – un o’r bomiau oedd ar ôl yno ers y rhyfel yn yr 1960au a’r 70au.

Mae’n debyg fod y pedwar – a oedd rhwng 4 ac 11 oed – yn chwarae gyda’r ffrwydryn ym mhentre’ Hieu Nghia, a oedd yn un o ganolfannau’r Comiwnyddion yn ystod y rhyfel.

Fe gafodd dau blentyn arall a thri oedolyn eu hanafu gan y bom a oedd wedi cael ei ffeindio yn y pentre’ bum mlynedd yn ôl.

Mae’r digwyddiad diweddara’n golygu bod tua 42,000 o bobol wedi cael eu lladd gan hen ffrwydron ers i’r rhyfel ddod i ben yn 1975.