Prifysgol Aberystwyth...y dewis amlwg!

Mae tref Aberystwyth yn gyrchfan naturiol i Gymry Cymraeg, ac yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rhoddwn gryn bwyslais ar hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae’r dewis o gyrsiau gradd y gellir eu dilyn yn llwyr neu i raddau trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel israddedig yn amrywiol. Ar hyn o bryd gellir astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg mewn Addysg, Drama ac Astudiaethau Theatr, Astudiaethau Ffilm a Theledu, Cerddoriaeth, Cyfrifiadureg, Cymraeg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gwyddeleg, y Gwyddorau, Hanes a Hanes Cymru, Llydaweg, Rheolaeth a Busnes, Seicoleg a’r Gyfraith.


Diwrnodau Agored y Brifysgol

Dod ar Ddiwrnod Agored prifysgol yw’r unig ffordd y gallwch fod yn siŵr fod y brifysgol sydd ar eich rhestr fer chi yn addas. Mae Diwrnodau Agored Prifysgol Aberystwyth yn hynod o boblogaidd, ac felly dylech gadw lle o flaen llaw. Maent wedi’u llunio i roi syniad i chi o sut beth yw bywyd yn y brifysgol, a rhoi cyfle i chi siarad â’r tiwtoriaid a’r myfyrwyr, gweld y llety, a mynd o gwmpas y llefydd y byddwch yn gweithio, ymlacio ac yn chwarae ynddynt.

Dyma ffordd berffaith o weld bywyd fel myfyriwr, ond mae’r llefydd yn gyfyngedig gan fod galw mawr am ddod i’n gweld. I wneud yn siŵr bod lle i chi, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dweud wrthym eich bod am ddod drwy gadw lle i chi eich hun.
Mae’n hawdd iawn cadw lle i chi eich hun ym Mhrifysgol Aberystwyth! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y ddolen yma, llenwi eich manylion, a byddwn yn gyrru prosbectws i chi a’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer eich ymweliad yn ystod y Diwrnod Agored.

Dyma rai o’r rhesymau pam y dylech gadw lle i chi eich hun:
• Yn bwysicaf oll, pan fyddwch yn archebu eich lle, mae wedi’i warantu, mae eich enw ar y rhestr a byddwch yn gallu dod ar ein Diwrnod Agored.
• Y llynedd, Prifysgol Aberystwyth oedd y brifysgol fwyaf poblogaidd yn y wlad a chafwyd cynnydd o 18% yn nifer y myfyrwyr. Dewch i brofi pam mai ni yw’r brifysgol sy’n tyfu gyflymaf a pham mai ni sydd ar frig y tabl Bodlonrwydd Myfyrwyr.
• Cadwch le i chi eich hun ac fe yrrwn e-bost atoch gydag unrhyw wybodaeth neu ddatblygiadau diweddaraf a allai effeithio arnoch, megis gwybodaeth am deithio, parcio neu unrhyw newidiadau hwyr i’r amserlen.

Ein Diwrnodau Agored yw eich cyfle chi i gael syniad o fywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a thrwy gadw lle i chi eich hun gallwn eich helpu i wneud y diwrnod yn wir werth dod iddo. Mae ein Diwrnodau Agored nesaf ar ddydd Mercher, 7fed o Orffennaf, dydd Mercher, 15fed o Fedi a dydd Sadwrn 16eg o Hydref 2010.

Edrychwn ymlaen at eich cyflwyno i’ch bywyd newydd yn y brifysgol sydd ar frig tabl Bodlonrwydd Myfyrwyr y wlad. Yn y cyfamser porwch y tudalennau hyn er mwyn dysgu mwy am Brifysgol Aberystwyth.