Mae Llafur a Phlaid Cymru ar y ffordd at wireddu addewidion a wnaed i geisio gwella ansawdd bywyd pobol Cymru – dyna honiad Rhodri Morgan wrth amlinellu cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer y 12 mis nesaf.
Yn ôl y Prif Weinidog, mae’r ddwy blaid yn cyflawni’r anghenion a osodwyd yn nogfen Cymru’n Un.
Dywedodd y byddai’r llywodraeth yn cyflwyno mesur er mwyn sefydlu comisiynydd yr iaith Gymraeg, cadarnhau statws swyddogol i’r Gymraeg a rhoi pwerau newydd i bobol ddefnyddio gwasanaethau drwy’r iaith.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gwneud cais am bwerau deddfu ar dai a diogelwch ar fysiau ysgol dros y flwyddyn nesaf, meddai’r Prif Weinidog.
Roedd pwerau newydd y Cynulliad yn rhan o “brentisiaeth” datganoli, meddai.
“Fel corff sy’n aeddfedu mae hyn yn caniatau i ni ddweud gyda rywfaint o hyder i bobol Cymru a’r fam-senedd ar ben arall yr M4 ein bod ni’n barod i gymryd cyfrifoldeb am rai meysydd, ein bod ni wedi cwblhau ein prentisiaeth ac yn barod i’w wneud e’.”
Chwe mesur a dwy eLCO
Roedd ymgais gynt i gael pwerau dros dai wedi ei atal dros anghytundeb ynglŷn ag ymdrech i rwystro tenantiaid tai cyngor rhag prynu eu cartrefi.
Bydd yr eLCO newydd – modd o drosglwyddo pwer o Fae Caerdydd – yn ymdrin â thai cyngor ac anghenion llety pobol fregus, meddai Rhodri Morgan.
Byddai eLCO arall, ar ddiogelwch ar fysiau ysgol yn “gwneud beth mae’n ei ddweud ar y tun”, meddai.
Yn ogystal â’r mesur iaith bydd pump arall yn cael eu cyflwyno – gan gynnwys un ar yr amgylchedd fydd yn ymwneud â chodi tal am fagiau plastig.
System ‘afrosgo’
Fe wnaeth y Prif Weinidog amddiffyn y modd yr oedd y llywodraeth wedi mynd i’r afael a’r LCOs, gafodd eu cyflwyno wedi etholiad yn 2007.
Ond dywedodd bod y system yn “afrosgo” a’i fod o’n unigryw yn y byd.
“Dyw e’ ddim yn gweithio’n berffaith ac fe allai fe gael ei wella a’i gyflymu, ond wrth i bob blwyddyn fynd heibio ryden ni’n gwella,” meddai Rhodri Morgan.
“Does dim modd dweud nad yw e’n gweithio. Mae’n gweithio’n araf, ar adegau mae yna ormod o wrthdaro ac rydyn ni’n colli rhai darnau o ddeddfwriaeth.”
‘Ie’ mewn refferendwm
Dywedodd Rhodri Morgan y byddai Llafur a Phlaid Cymru yn galw am refferendwm am bwerau tebyg i rhai Senedd yr Alban yn 2011, os yw’r cyhoedd yn gefnogol.
“Fe fyddai’n cymryd rhan, beth bynnag fydd fy swyddogaeth pan ddaw’r refferendwm,” meddai. “Fe fyddai’n ymgyrchu am bleidlais ‘Ie’. Mae hynny’n glir yn fy meddwl.”
Anfon at ffrind