01/10/2009
'Sa’ i’n oddball' – Euros Childs
Pobol ddiflas yn blogio a trydar ar y we sydd wedi dylanwadu ar albym newydd Euros Childs – Son Of Euro Child.

Ar y gân ddoniol ‘Like This? Then Try This’ oddi ar ei bumed albym unigol, mae cyn-ganwr Gorky’s Zygotic Mynci yn gofyn ac yn ateb nifer o gwestiynau gwirion fel “Do you like mayonnaise? I like mayonnaise.”

Daeth yr ysbrydoliaeth wrth ddarllen y sylwadau dwl a dibwys mae pobol yn eu gosod ar y we.

“Dw i’n trio ffeindio’r geiriau mwya’ inane, diflas ag anniddorol,” meddai Euros Childs.

“Fi wedi cael fy nylanwadu gan ddiwylliant y blogs - pobol sy’n rhoi ffeithiau cwbwl anniddorol ar y we.”

Y canlyniad yw caneuon cwyrci sy’n gwneud hwyl am ben y blogosffêr - ac mae ganddo fideo ar myspace ohono’n perfformio ‘Like this? Then try this’ ar biano.

Ond nid pawb sy’n deall y jôc. Wrth adolygu’r albym newydd, mae un beirniad wedi cyfeirio at “oddball melancholia” y canwr.

“Sa’ i’n gweld e fel oddball,” meddai Euros Childs yn bendant.

“Mae rhai pobol falle’n cymysgu lan creadigrwydd, pobol sy’n defnyddio dychymyg, efo bod yn od.

“Dw i’n trio ffeindio ffordd wahanol o wneud rhywbeth. Dim gwneud rhywbeth od jest er mwyn bod yn od.”


Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 1

Anfon at ffrind