Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi rhybuddio rhai o gynghorwyr Ynys Môn y gallan nhw golli eu cyfrifoldebau os nac ydyn nhw’n ymddwyn yn gyfrifol.
Fe ddywedodd Brian Gibbons hefyd y byddai’n fodlon defnyddio’i bwerau i ail-drefnu system gynghorau’r awdurdod, os na fydd pethau’n gwella.
Wythnosau ar ôl adroddiad damniol gan yr Archwilydd Cyffredinol, meddai, roedd rhai aelodau yn dal i gamymddwyn.
Beirniadaeth
Fe gafodd y Cyngor ei feirniadu’n hallt gan yr Archwiliwr oherwydd y berthynas wael rhwng rhai cynghorwyr a’i gilydd a’r ffordd yr oedden nhw’n camddefnyddio’u grym yn eu hagwedd at swyddogion.
Fe sefydlodd Brian Gibbons Fwrdd Adfer i geisio arwain y Cyngor o’u twll a, heddiw, roedd yn dweud wrth y Cynulliad am adroddiad cynta’r Bwrdd hwnnw.
Roedd yn dangos, meddai, bod rhai aelodau yn dal i fihafio yn y ffordd yr oedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi’i chondemnio.
“Mae hyn yn fater o gryn bryder,” meddai’r Gweinidog. “Fe fydd yr adferiad ym Môn yn methu os na fydd pob aelod a swyddog yn derbyn cyfrifoldeb ar y cyd ac yn cyfrannu’n llawn at eu datrys.
Gweithredu
Yn ei ddatganiad ar lawr y Senedd yng Nghaerdydd, roedd gan Brian Gibbons rybudd clir:
“Yn ystod yr wythnosau nesa’, rwy’n disgwyl gwelliant cyflym yn ymddygiad aelodau ... os na fyddan nhw’n gwella, wna’ i ddim oedi cyn defnyddio fy mhwerau eto.
“Gallai hynny olygu ail-drefnu system bwyllgorau’r Cyngor neu dynnu cyfrifoldebau oddi ar aelodau os ydyn nhw wedi dangos nad ydyn nhw’n barod i’w defnyddio’n gyfrifol.”
Anfon at ffrind