Fel Cuprinol, mae Ginge & Cello Boi yn ‘gwneud beth mae’n ddweud ar y tin’. Siôn Russell Jones yw Ginge, oherwydd ei domen o wallt fel moron pigog, a Matt Downer sy’n canu’r soddgrwth (cello) – neu’r bas dwbwl i fod yn fanwl gywir.
Carchardai, clybiau tywyll, neuaddau cyngerdd sidêt, Noson Lawen – maen nhw wedi canu yn y llefydd hyn oll.
Y bwriad bob tro yw gwneud i bobol ddawnsio, ac wrth ganu caneuon benthyg fel yr anthem tecno ‘No Limits’ gan 2Unlimited a’i gyflwyno mewn dull bluegrass – y math o stwff glywch chi ar y ffilm O! Brother, Where Art Thou? – maen nhw hefyd yn gwneud i bobol chwerthin (gyda nhw, nid arnyn nhw, medden nhw!).
“Beth r’yn ni’n trio gwneud gyda covers yw trio rhoi’n lliw ein hunain arno fe, felly gyda ‘No Limits’ fe benderfynon ni ei wneud e mewn ffordd mwy bluegrass,” meddai Matt ‘Cello Boi’ Downer.
“Does dim cerddoriaeth yn saff! Wnawn ni drio unrhywbeth a gweld os yw e’n gweithio neu beidio.”
Yn y dechreuad
Daeth y ddau at ei gilydd mewn noson meic agored yn nhafarn The End yn Cathays, ardal myfyrwyr Caerdydd, pan oedd y ddau yn astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama’r brifddinas.
Er nad oedd canu bluegrass ar yr agenda ar y pryd, dyna ddigwyddodd.
“Daethon ni ar draws bluegrass ar hap bron,” eglura’r cochyn Siôn Russell Jones.
“Roedd y gân gynta’ wnaethon ni jamio gyda’n gilydd yn bluegrass ac roedd e’n teimlo’n dda i chwarae’r math yna o gerddoriaeth – nid yn fwriadol ar y dechrau, ond dechreuon ni ddatblygu’r math yna o gân ac fe ddaeth e’n eithaf amlwg ein bod ni’n fand bluegrass.”
Cewch chi ddarllen weddill yr erthygl yn y Babell Roc yn Golwg, Ionawr 7
Anfon at ffrind