14/01/2010
Cale yn mynd i Awstralia
Ar ôl cynrychioli Cymru yng ngŵyl gelf Biennale Fenis, fe fydd y cerddor John Cale yn mynd â’i waith Dyddiau Du/Dark Days yr holl ffordd i Awstralia.

Fed fydd yn rhan o ŵyl gelf sy’n digwydd ar draws dinas Hobart yn Tasmania – mae’n dod â cherddoriaeth a chelf gyfoes at ei gilydd a bydd John Cale hefyd yn perfformio yno fel artist preswyl.

Fe fydd Dyddiau Du/Dark Days - gwaith ar bum sgrin yn edrych ar ei berthynas gyda Chymru a’i hen ardal yn y Garnant - yn sefyll ar ei ben ei hun mewn canolfan gelf, lle mae llecyn wedi ei greu sy’n debyg i safle’r Biennale.

Gweledigaeth John Cale oedd caniatáu i'r gynulleidfa gael yr un profiad o'r gwaith ag a gafodd pobol yn yr Eidal.

Mae’r corff hyrwyddo, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn “falch iawn bod Dyddiau Du/Dark Days yn cael ei arddangos yn Nhasmania”.

Gwaith ‘o bwys byd-eang’

“Er i'r gwaith gael ei ffilmio yn gyfangwbl yng Nghymru, mae’n edrych yn ôl ar fywyd Cale trwy gyfrwng ei berthynas â mannau arbennig y bydd pobol o bob rhan o'r byd yn gallu uniaethu â nhw,” meddai Richard Higlett, y Swyddog Celfyddydau.

“Mae hwn yn waith o bwys byd-eang a wnaed yng Nghymru."

Hwn yw'r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau, gwyliau ac arddangosfeydd yng Nghymru ac ar draws y byd fydd yn cyflwyno Dyddiau Du/Dark Days dros y deunaw mis nesaf.

Llun: John Cale, y cerddor (Bart Cabanier CCA2.0)

Anfon at ffrind