14/01/2010
Dwy chwaer – un arddangosfa
Mae gwaith dwy chwaer yn cael ei arddangos gyda’i gilydd am y tro cynta’ mewn oriel yn Abertawe.

Yr hyn sy’n debyg rhwng Ami a Beth Marsden yw eu cefndir teuluol a’r ffaith bod y ddwy bellach yn famau i blant bach o dan dair oed.

Ond mae’r gwaith yn gwbl wahanol - Beth Marsden, yr ieuenga’ o’r ddwy yn paentio - ac Ami Marsden yn gwneud gwaith cerflunio, y tro yma gyda chardfwrdd.

“Mae wedi bod yn grêt gweithio gyda’n gilydd ar gyfer y sioe yma,” meddai Beth Marsden.

“Mae’r ffaith bod gwaith y ddwy ohonon ni mor wahanol yn golygu bod cyfuniad o’r ddau yn cynnig rhywbeth newydd ynddo’i hun ac mae hynny wedi bod yn dda i ni.”

Fe fu’r ddwy chwaer yn astudio yn Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.

* A Tale of Two Sisters yn Oriel Junction, Abertawe tan ddiwedd Ionawr. Y stori yn llawn yn Golwg, Ionawr 14.

Anfon at ffrind