20/01/2010
Prosiect Adeiladau newydd Cymreig ar restr fer Ryngwladol
Mae ‘r Unedau Creadigol yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, sy'n adran o Brifysgol Aberystwyth wedi cael eu gosod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau'r Ymddiriedolaeth Ddinesig.

Dyma’r unig brosiect Cymreig i gael ei osod ar y rhestr fer eleni.

Mae’r gwobrau yn cael eu rhoi i brosiectau sy'n fuddiol yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac sy'n gwneud cyfraniad ‘eithriadol’ tuag at ansawdd a golwg safleoedd o fewn yr amgylchedd.

Fe gafodd y prosiect hwn ei ddylunio gan y cwmni blaenllaw Stiwdio Heatherwick.

Fe fydd y Seremoni Wobrwyo yn Neuadd San Siôr yn Lerpwl, 12fed Mawrth a’r wobr yn cael ei gyflwyno gan y pensaer a’r cyflwynydd teledu George Clarke (Sianel 4 - The Home Show).

“Newyddion gwych”

“Mae'n newyddion gwych bod ein prosiect wedi cael ei osod ar restr fer ar gyfer gwobrau mor uchel eu bri” meddai Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Alan Hewson.

“Gyda sector y diwydiannau creadigol yn ffynnu o fewn economi'r DU; mae'n hanfodol bod y math yma o gyfleusterau yn bodoli i gefnogi'r sector. Hefyd, i greu amgylchedd ysbrydoledig a chreadigol lle y gellir gweithio ar y cyd' dywedodd.

Bwriad prosiect yr Unedau Creadigol oedd datblygu rôl Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel lleoliad creadigol ar gyfer busnesau celf, asiantaethau datblygu'r celfyddydau, artistiaid a chrefftwyr.


Anfon at ffrind