21/01/2010
Nid rhywbeth neis-neis yw’r Gymraeg
Y Betti Galws yw’r band Cymraeg cyntaf o Ferthyr Tudful, ac maen nhw ar dân dros fynd â’r iaith a’r gerddoriaeth at y bobol.

Ers y 1990au cynnar mae Mentrau Iaith ar hyd a lled Cymru wedi trefnu cannoedd o gigs a brwydrau bandiau Cymraeg, ond mae un wedi mynd ati i ffurfio band yn unswydd er mwyn achub yr iaith.

“Mae ganddon ni Ganolfan Gymraeg ym Merthyr ers ugain mlynedd yn gwneud gwaith da,” meddai Jamie Bevan, sy’n 33 oed ac yn gweithio i Fenter Iaith Merthyr ac wedi ffurfio band yn lleol.

“Ond cyn i ni ddechrau doedd pethe fel joio mewn tafarn a gigs ddim ar gael yn Gymraeg yma.”


Mynd â’r Gymraeg at y di-Gymraeg

Mae gan Jamie Bevan golofn ddwyieithog wythnosol ym mhapur wythnosol y Merthyr Express, ac mae’n credu’n gryf bod angen lledaenu’r efengyl ymysg y rheini sydd heb Gymraeg.

“Rydan ni’n lansio ein E.P. yng Ngholeg Merthyr, mewn gig gyda sawl band lleol Saesneg,” meddai.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n chwarae ein stwff Cymraeg ni i gynulleidfa ddi-Gymraeg.”

Bydd yr E.P. yn cael ei lawnsio ddechrau Chwefror, ac mae eu caneuon eisoes i’w clywed yn aml ar Radio Cymru.


Cewch ddarllen weddill y stori yn Y Babell Roc, Golwg, Ionawr 21

Anfon at ffrind