Fe fydd Cefin Roberts, Cyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol, yn troi i wneud rhagor o sgrifennu ac, efallai, i actio eto.
Roedd yn gwadu’n llwyr ei fod yn rhoi’r gorau i’r swydd oherwydd beirniadaeth ar gynhyrchiad diwetha’r cwmni.
Fe ddywedodd hefyd bod angen parhau gyda’r polisi o gynnig cymysgedd o gynyrchiadau clasurol, rhai poblogaidd a chyfieithiadau, ochr yn ochr â meithrin talentau newydd.
‘Amser iawn’
“Ro’n i wedi dweud ar y dechrau y byddwn i efo’r cwmni am bum neu chwe blynedd,” meddai. “Dw i wedi gwneud saith. Mae’n teimlo mai dyma’r amser iawn i fynd.”
Fe ddywedodd bod y blynyddoedd cynta’ yn anodd oherwydd disgwyliadau uchel ac amodau anodd ond bod y cwmni ei hun wedi tyfu ynghyd, “yn benderfynol o beidio â chael ein llethu gan ambell feirniadaeth annheg”.
Erbyn hyn, mae’r cwmni – a byd y ddrama’n gyffredinol – yn wynebu gwasgfa ariannol, yn rhannol oherwydd y Gêmau Olympaidd, meddai.
“Mae am fod yn anodd iawn yn ystod y blynyddoedd nesa’, yn enwedig i gwmni teithiol. Mae costau petrol a chostau set yn mynd i fyny ac mae hynny’n rhoi pwysau mawr.”
‘Annheg’
Roedd beirniadaeth ddiweddar ar safon actio yn gwbl annheg, meddai wedyn - “Mae gynnon ni doreth o actorion a sgrifennwyr ifanc da iawn yn dod i’r amlwg rŵan.”
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ddrama a dwy nofel ac wedi troi fwy a mwy at sgrifennu barddoniaeth hefyd. Yn ogystal â pharhau i gyfarwyddo, mae hefyd yn gobeithio ailafael yn ei actio.
Ond fydd o ddim yn gwneud rhagor gyda’r ysgol berfformio yr helpodd i’w sefydlu, Ysgol Glanaethwy – “os rhywbeth mi fydda’ i’n gwneud llai”.
Fe fydd yn gyfrifol am gynhyrchiad nesa’r cwmni – y cyfieithiad o ddrama fawr Harold Pinter, The Caretaker. “Dw i’n mwynhau cymaint, bron nad ydw i’n difaru’n barod!” meddai.
Llun: Cefin Roberts (o wefan y cwmni)
Anfon at ffrind