27/01/2010
Mwy o raglenni gwreiddiol ar gyfer plant
Mae S4C wedi dweud y bydd mwy o wasanaethau gwreiddiol ar gyfer plant yn cael eu cyflwyno yn ystod 2010.

Yn ôl y sianel, fe fydd gwasanaeth newydd ar gyfer plant rhwng 7 ac 13 oed yn dechrau ym mis Ebrill, gyda rhaglenni ar y penwythnosau a phob prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Yn ogystal, fe fydd gwasanaeth Cyw ar gyfer plant oed meithrin yn cael ei ymestyn i fod ar gael saith niwrnod yr wythnos.

“Mae S4C yn credu bod gwasanaethu plant yn rhan annatod o’i swyddogaeth fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus,” meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C.

Pobol ifanc hefyd

Yn ôl y sianel, fe fydd cynlluniau pellach ar gyfer gwylwyr 13 oed a hŷn yn “cael eu rhoi ar waith”.

Maen nhw’n disgwyl i’r gwasanaeth newydd yma, “gynnig ystod ac amrywiaeth o gynnwys” ac i “adlewyrchu bywyd pobl ifanc yng Nghymru”.

Roedden nhw’n gwadu y byddai’r pwyslais ar raglenni i blant a phobol ifanc yn tlodi gweddill y gwasanaeth.

Gwobrau

Mae tair o raglenni S4C wedi’u henwebu yng Ngwobrau cyntaf KidScreen, a fydd yn cael eu cynnal yn Efrog Newydd ym mis Chwefror.

Mae’r ffilm Rhestr Nadolig Wil wedi ei henwebu, yn ogystal â’r gyfres ddrama Rownd a Rownd, a’r rhaglen animeiddio, Nadolig Plentyn yng Nghymru.

Y llynedd, fe enillodd y gwasanaeth nifer o wobrau ar lefel Gymreig a Phrydeinig.


Anfon at ffrind