27/01/2010
Albym Edward H yn ysbrydoli sioe
Fe fydd record hir ola’ grŵp pop mwya’ Cymru yn dod yn fyw unwaith eto ar ôl 30 mlynedd..

Albym Edward H Dafis, Plant y Fflam, yw’r ysbrydoliaeth y tu cefn i un o sioeau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

Fe fydd 60 o bobol ifanc Ceredigion, rhwng 12 a 19 oed, yn perfformio’r sioe newydd sbon a fydd yn cynnwys holl draciau’r albym.

Yn ôl Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch a chyfarwyddwr Plant y Fflam, “stori dda yw Plant y Fflam” yn ei hanfod.

Fe ddywedodd ei fod wedi ail-ddarganfod yr albwm a “dechrau meddwl bod deunydd sioe yno” ar ôl i gwmni recordiau Sain gyhoeddi casgliad cyflawn o weithiau Edward H.


‘Ceisio creu lle gwell’

“Stori am grŵp o bobl ifanc sy'n troi eu cefnau ar gymdeithas gyfoes wag ac arwynebol er mwyn ceisio creu lle gwell a ffordd well o fyw yw’r stori,” meddai Jeremy Turner.

Fe fydd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel, y cerddor Rhys Taylor - sydd hefyd yn hanu o Aberystwyth - a'r coreograffydd, Lynne Hughes yn cyfrannu at y sioe.

"Dw i'n edrych ymlaen at gael gweld sut y bydd yr ieuenctid yn ymdrin â'r caneuon. Mae'n wych gweld y byddan nhw’n cael eu canu o'r newydd dri deg o flynyddoedd wedi iddyn nhw ymddangos am y tro cyntaf,” meddai Hefin Elis, un o aelodau Edward H ac awdur amryw o’r caneuon.

“Dwi'n edrych ymlaen at eu gweld nhw mewn gwisg newydd."


Y perfformiadau

Mari Rhian Owen o gwmni Arad Goch sy’n ysgrifennu’r sgript ac fe fydd yn cael ei berfformio yn Theatr Felin-fach o 28 Mai i 1 Mehefin.


Anfon at ffrind