Mae ffermwr a chynhyrchydd ffilmiau o Geredigion yn cwyno nad ydi S4C yn adlewyrchu diddordebau ei chynulleidfa.
Yn ôl Rhodri ap Hywel mae’r sianel yn defnyddio’r un actorion dro ar ôl tro mewn rhaglenni sy’n cael eu dangos drosodd a throsodd, ac yn euog o aildwymo syniadau Saesneg ac Americanaidd ar y bocs bach.
“Rwy’n credu bod e’n iawn i ddweud bod lot o bobol Cymraeg yn cael siom gydag S4C,” meddai Rhodri ap Hywel fu’n cyflwyno rhaglen natur Y Sioe Wyllt ar y sianel ac sydd wedi sefydlu Cwmni Garn Fach i gynhyrchu ffilmiau Cymraeg.
“Achos falle dyw e ddim yn cynrychioli pobol yng Nghymru, ac yn dueddol o efelychu pethau Americanaidd a Saesneg.
“Mae peil o arian yn cael ei bwmpio mewn i S4C ac maen nhw’n ailddangos repeats. A pham defnyddio yr un actorion ym mhopeth? Mi fydde fe’n neis gweld rhywbeth sy’n cynrychioli pobol yng Nghymru.
“Rwy’n cydnabod eu bod nhw’n gwneud ymdrech, ond... a ydi’r bobol yma yn mynd mas a siarad gyda’r bobol?”
Ymateb S4C
“Mae S4C, fel y mwyafrif o sianeli, yn cynnig ail gyfleoedd i wylio rhaglenni. Yn aml mae ailddarllediadau yn cynnwys isdeitlau agored neu wasanaethau mynediad eraill er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.,” meddai llefarydd.
“Mae S4C, fodd bynnag, yn ymwybodol o bryderon y gynulleidfa am ailddarllediadau ac mae’n gweithio at eu cyfyngu.”
Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, Ionawr 28
Anfon at ffrind