28/01/2010
Rolf yn dal Kyffin mewn parchedig ofn
Un o ffans mwya’ Kyffin Williams yw’r arlunydd a’r rocar Rolf Harris. Yn wir, mae’r Awstraliad o dras Cymreig a symudodd i Loegr yn 1952 yn ffan o waith celf Cymru ffwl stop.

Mae’r cyflwynydd adnabyddus wedi prynu gwaith artistiaid eraill o Gymru. Ond dyw ei asiant ddim yn awyddus iddo ddatgelu wrth Golwg pa arlunwyr.

Rolf Harris fydd yn agor arddangosfa newydd ‘Kyffin Williams – Portreadau’ yn Oriel Môn Llangefni wythnos i nos Wener.


Wynebau


“Gan nad oes dim byd byth yn hawdd imi,” meddai Kyffin Williams unwaith, “bu pob portread a orffennais yn gryn dreth arnaf, ond credaf mai peth o’m gwaith gorau fu’r amryw wynebau diddorol a beintiwyd gennyf.”

Ac mae Rolf Harris yn falch bod Kyffin Williams wedi gwneud yr ymdrech.

“Dw i wrth fy modd ag e,” meddai wrth Golwg. “Mi gwrddais ag e yn weddol hwyr yn ei fywyd.

“Roedd fy ngwraig a finnau wastad yn dotio ar ei luniau. Mi fuasen ni’n mynd at ei waith e gynta’ yn yr Academi Frenhinol, y gweithiau o’r mynyddoedd gyda’i arddull arbennig o baentio â chyllell palette mawr.”

Aeth Rolf Harris â’r arlunydd mawr am ginio ac yn ei eiriau fe, roedd Kyffin yn “absolute charmer of a man.”

Kyffin Williams – Portreadau, Oriel Mon, Llangefni, Chwefror 6 tan Orffennaf 11


Gweddill y stori yn Golwg, Ionawr 28

Anfon at ffrind