28/01/2010
Aelwyd “hectig” yn helpu’r awen
Mae paratoi digon o luniau i lenwi un arddangosfa yn ddigon o her i unrhyw arlunydd gan ei fod yn golygu misoedd o baentio a chynllunio.

Ond mae artist ifanc o ardal Caernarfon wedi paratoi digon o waith i lenwi tair arddangosfa ar ei ben ei hun, a’r rheiny ym Mhen Llŷn, Caerdydd a Chaernarfon.

“Dw i’n falch o gyfro Cymru mewn un go,” meddai Meirion Ginsberg a aeth i Goleg Celf Caerdydd a graddio mewn Celf Gain yn 2007.

Ei fagwraeth anarferol yn Celtic House, cartre’r teulu ym mhentre’ Bethel ger Caernarfon, sydd wedi ysbrydoli nifer o’r lluniau fydd i’w gweld yn yr arddangosfa yng Nghaernarfon.

Mae’r Ginsbergs yn deulu artistig - y rhieni’n gerddorion gwerin, a’i dri brawd, Matthew, Owain a Carwyn yn gerddorion. Roedd hi’n beth “naturiol” iddo fe, y mab ieuenga’ ond un, i droi at y byd celf, meddai.

“Roedd bob tro celf a miwsig yn y tŷ,” meddai gan gyfeirio at y bobol o bob math, ac o bob oed, a fyddai’n galw o fore gwyn tan nos.


Cynllunio cloriau’r Derwyddon a’r Meistri


Bydd Meirion Ginsberg hefyd yn gwneud ychydig o waith dylunio graffeg, ac mae wedi cynllunio cloriau cryno ddisgiau bandiau roc ei frodyr, Fennel Seeds a Masters in France, a chlawr albym y grŵp Derwyddon Dr Gonzo.

Dyw e ddim am fyw yn Lerpwl am byth, er bod son y bydd ganddo arddangosfa ym Mhrifysgol Celf John Moores yn y ddinas fis Medi.

“Mi faswn i’n licio bod adre, a bod yn onest. Dw i’n ormod o country bumpkin. Mi faswn i’n licio gwneud mwy o sioeau, ond dim cymaint ar yr un go.”


Meirion Alan Ginsberg, Neuadd Llanofer, Caerdydd, Chwefror 22 – Mawrth 27

Galeri Caernarfon, Ionawr 22 – Mawrth 6

Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pen Llyn, Ionawr 24 – Mawrth 14


Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Ionawr 28


Anfon at ffrind