29/01/2010
Gwario £250,000 am 'olygfa gwell' yn Euro 2008
Gwariodd y BBC £250,000 ar adeiladu stiwdio newydd ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2008, er mwyn cael gwell golygfa drwy’r ffenestr.

Yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, roedd y BBC wedi cael stiwdio bedair milltir tu allan i Fienna ar gyfer eu darllediad o’r bencampwriaeth bêl droed.

Ond doedd y BBC ddim yn credu fod y safle yn “addas yn olygyddol”, am nad oedden nhw’n cael lluniau o “adeiladau allweddol”.

Yn ôl yr adroddiad, talodd y BBC £250,000 yn ychwanegol am greu stiwdio oedd â golygfa well o ddinas Fienna.

Yn ôl papur newydd y Telegraph, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Edward Leigh, fod yr adroddiad yn dangos nad oedd gwerth am arian yn flaenoriaeth bob tro gan y BBC.

Dywedodd fod agwedd “ddifater” tuag at wariant yn tanseilio hyder y bobol sy’n talu’r drwydded eu bod nhw’n cael gwerth am arian.


Angen 'tryloywder'


Dywedodd yr adroddiad nad oedd y BBC wedi gwario’u harian yn ffordd orau posib wrth ddarlledu digwyddiadau cerddoriaeth a chwaraeon mawr eraill, chwaith.

Mae’r adroddiad wedi ei seilio ar ddarllediadau’r gorfforaeth o’r Gemau Olympaidd yn Beijing, Euro 2008, Wimbeldon, Gŵyl Glastonbury, Proms y BBC, a Phenwythnos Fawr Radio 1.

Dywedodd yr adroddiad bod angen mwy o “dryloywder” ynglŷn â faint oedd yn cael ei wario ar ddigwyddiadau unigol.

Dyma’r unig ffordd y gall y BBC argyhoeddi pobol sy’n talu’r drwydded deledu fod eu harian nhw’n cael ei wario’n ddoeth, meddai’r adroddiad.

Gwariodd y BBC £357m ar yr hawl i ddarlledu digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth yn ystod 2008-09.


Anfon at ffrind