29/01/2010
Sam Tân ar y shilffoedd
Bydd DVDs Cymraeg newydd sbon Sam Tân ar gael mewn siopau ledled Cymru o fewn y misoedd nesaf.

Daw hyn wedi cwyno gan berchnogion siopau a rhieni nad oedd digon o ddisgiau DVD Cymraeg yn cael ei ryddhau i blant.

Mae’r DVDs wedi eu cynhyrchu fel rhan o gytundeb newydd a gafodd ei wobrwyo i gwmni Sain gan S4C yn dilyn proses dendr agored.

Dywedodd Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, eu bod nhw’n “falch iawn y bydd DVDs Cymraeg newydd o un o gyfresi meithrin mwyaf poblogaidd S4C ar gael.

“Byddwn yn edrych at ymestyn nifer y DVDs, teganau meddal ac eitemau eraill yn seiliedig ar gymeriadau plant S4C sydd ar gael eleni, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach maes o law.”


'Angen mwy'

“Mae hyn yn newyddion calonogol a da iawn,” meddai Andrew Davies wrth Golwg36.

Roedd Perchennog Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin wedi galw am fwy o DVDs rhaglenni plant yn y Gymraeg.

“Mae’n braf gweld rhywbeth newydd yn dod allan,” meddai.

“Ond, mae pobl dal eisiau DVDs Sali Mali. Hefyd, mae angen iddyn nhw ryddhau mwy o nwyddau Sali Mali, Jac y Jwc a Chyw.

“Mae mamau yn dod i mewn i’r siop ac yn gofyn am deganau, nwyddau a gemau’n aml. Fe allai fod yn ddiwydiant arall iddyn nhw.”


Sali Mali yn cyrraedd yr Alban

Fe ddywedodd Andrew Davies fod un teulu o’r Alban wedi dod i mewn i’r siop yn chwilio am nwyddau Sali Mali.

“Doedden nhw ffili credu nad oedd dim ar gael. Roedd y plant yn gwylio S4C digidol ac wedi gwirioni efo Sali Mali, er nad oedden nhw’n deall gair o Gymraeg,” meddai.

“Mae’n newyddion calonnog - ond mae’n drueni nad ydyn nhw’n rhoi mwy fyth ar y farchnad.”

Nid ehangu darpariaeth nwyddau plant yn unig yw’r sialens chwaith, yn ôl perchennog y siop.

“Mae’r to hŷn hefyd ishe’ ail weld pethe’ - er bod S4C eisoes yn ail-adrodd yn ddi-ben-draw,” meddai cyn cyfaddef y byddai’r farchnad hon dipyn llai ei maint.


Anfon at ffrind