Mae bandiau roc angen cael eu hyrwyddo’n well a chael mwy o sylw gan y cyfryngau yng Nghymru, yn ôl enillwyr Brwydr y Bandiau C2 2009.
Mae band Nevarro o Lanelli yn gobeithio am fwy o lwyddiant yn 2010 – os ydyn nhw’n dod o hyd i brif leisydd newydd.
Mae Tom Van Hamer wedi gadael er mwyn gweithio ar ei brosiectau ei hun, meddai nhw.
Ond dywedodd beth sy’n weddill o’r band bod cystadlu ym Mrwydr y Bandiau wedi bod yn agoriad llygad.
“Ar ôl gwneud Brwydr y Bandiau - nes i sylwi fod ‘na lwyth o fandiau da yng Nghymru,” meddai Steff Pringle, gitarydd blaen y band.
“Doeddwn i ddim yn gwybod fod 'na sin cyn hynny. Yn sicr, mae angen mwy o sylw i’r sîn roc yng Nghymru.”
Dywedodd Dan Williams sy’n chwarae’r gitâr fas i Nevarro ac yn astudio Technoleg Sain ym Mhrifysgol Caerdydd, ei fod o wedi synnu faint o sin oedd yn y gogledd.
“Mae llawer mwy o fandiau yn y gogledd. Ers dechrau yn y Brifysgol ym Medi 2009, dim ond un gig roc Cymraeg ‘dw i wedi bod ynddo - a’n ffrind oedd wedi son am y gig,” meddai.
“Ond doedd yna ddim lot o bobl yna!”
Er hynny mae’r band yn awyddus i aros yng Nghymru a gwneud mwy o gigs. “Rydan ni wedi cael blas ar y sîn yma ac rydan ni’n ‘i hoffi o,” meddai Steff Pringle.
Chwilio am Brif Leisydd
Mae Nevarro wedi cael blwyddyn lwyddiannus ers ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru nol yn dechrau 2009.
Maen nhw wedi arwyddo i label recordiau Grawnffrwyth a rhyddhau eu EP cyntaf 'Uchela'; recordio sesiwn i C2, perfformio ym Maes B Eisteddfod Genedlaethol y Bala ac yng ngŵyl Wa Bala 2009.
Dywedodd Steff Pringle eu bod nhw’n chwilio am brif leisydd o “safon da, gyda llais a phersonoliaeth da, sy’n dedicated”.
Maen nhw hefyd yn chwilio am rywun â “phresenoldeb ar lwyfan” yn ogystal â “chemistry.
“Mae pawb yn y band yn cael lot o hwyl, ond rydan ni hefyd yn cymryd y peth go ddifrif."
Mae yna fwy o wybodaeth
ar wefan y band.
Anfon at ffrind