Mae Cystadleuaeth Artist y Flwyddyn Neuadd Dewi Sant yn gwahodd pobol i gystadlu eleni, tra bod enillydd y llynedd wedi ei galw yn “garreg filltir fawr” yn ei yrfa.
Tim Freeman, ffotograffydd o ardal Dre-biwt, Caerdydd, enillodd Gystadleuaeth 2009:
“Yr hyn sy’n fy ysbrydoli yw bod ma’s yn yr awyr agored. Bod yn rhywle am y tro cyntaf - heb agenda ac ymgolli yn y lle hwnnw,” dywedodd.
“Yn hytrach na rhamant peintiadau tirlun yr 18G, naratif eithafol a chyfoes yw fy ngwaith o sut mae tirluniau trefol a gwledig yn cyfarfod. Y llefydd hynny ar gyrion dinas yn aml,” meddai Tim Freeman.
O Loegr i Gymru
Er mai yn Swydd Efrog y ganed Tim Freeman, yn 1998 daeth i Gymru i astudio Celf - ble mae wedi aros. Mae’r sin Gelf yng Nghaerdydd yn hollol wahanol i’r sin galerïau Celf fasnachol ryngwladol mewn rhai mannau eraill ym Mhrydain, meddai.
“Mae Caerdydd yn le sy’n sympathetig at waith Celf. Mae llawer o weithgareddau Celf ac arddangosfeydd i artistiaid yn cael eu cynnal yma” meddai.
Pwy gaiff gystadlu?
Mae’r gystadleuaeth yn agored i artistiaid sydd wedi’u geni, yn gweithio ac yn byw yng Nghymru.
Y flwyddyn hon, mae trefnwyr y gystadleuaeth yn cynnig £2,000 am y gwaith mwyaf arloesol. Mae saith categori gan gynnwys paentio, cerflunio, ffotograffiaeth, celfyddyd gymhwysol, print, dylunio a chategori arbennig i fyfyrwyr.
Fe fydd Tim Freeman yn feirniad eleni, ynghyd ag Iwan Bala; Cyfarwyddwr Misison Gallery, Jane Phillips; Lynne Crompton, curadur oriel Q yn Arberth; a Ruth Cayford, curadur Arddangosfa Artist y Flwyddyn.
Llun o Tim Freeman: Martin Ellard
Anfon at ffrind