02/02/2010
O bwll nofio Pwllheli i Bencampwriaeth y Byd
Mae un o gyflwynwyr rhaglen deledu Uned 5 wedi derbyn “ei sialens anodda'” erioed gan y rhaglen, meddai.

Mae Meical Owen yn nofiwr cryf ac mae'n ymarfer yn gyson mewn clwb yng Nghanolfan Hamdden Pwllheli.

Ond, fe wnaeth Uned 5 benderfynu tynnu’r cyflwynydd o gynhesrwydd cymharol pwll nofio Pwllheli a'i daflu i ddyfnderoedd rhynllyd Slofenia.

Roedd o yno er mwyn cystadlu ym Mhencampwriaeth Nofio Aeafol y Byd - yn ystod un o’r gaeafau gwaethaf yn y wlad mewn 30 mlynedd.

"Roedd o’n sialens flinedig iawn, ym mhob ystyr y gair,” meddai.

“Wedi deud hynny roedd hwn yn gyfle i fynd ar daith er mwyn darganfod mwy amdanaf i fy hun a beth yw fy ffiniau.”

Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith paratoi ei gyflawni yn nyfroedd rhewllyd Llyn Padarn, Llanberis.

Cafodd y cwbl ei ffilmio gan gwmni cynhyrchu Antena a ddarlledir fel cyfres fer o fewn Uned 5. Bydd y rhan gyntaf ddydd Sul, Chwefror 7fed (12:30-14:30).



'Y grefft yn marw'

“Ro’ ni’n teimlo fy mod i’n mynd i farw cyn gwneud yr her. Roedd llawer o bobl wedi bod yn negyddol iawn am y sialens. Ro’n i’n poeni’n fawr iawn,” meddai Meical Owen wrth Golwg360.

Er mai ef oedd yr unig gynrychiolydd o Gymru yno, doedd ganddo “ddim amser i feddwl am hynny na phwy oedd o’n ei gynrychioli,” meddai.

“Yn feddyliol, ro’ ni’n meddwl am yr her o hyd - ac roedd hynny’n fy mlino i.”

Mae o’r farn y dylai mwy o bobl ifanc ymddiddori mewn nofio gaeafol.

“Roedd y rhan fwyaf o bobol yno yn hyn - mae’n hawdd gweld y grefft yn marw,” meddai Meical Owen.

Er mwyn sicrhau nad yw hynny’n digwydd mae’r cyflwynydd wedi hel criw o tua 10 o nofwyr Canolfan Hamdden Pwllheli at ei gilydd.

Mae’r criw yn ystyried cystadlu yn y gystadleuaeth yn Slofenia bob dwy flynedd.


Meical a’r siarc mawr gwyn

Yn sgîl yr her nofio aeafol mae’r cyflwynydd wedi cael blas ar antur a bellach yn gobeithio nofio gydag un o siarcod perycla’r byd - y morgi mawr gwyn.

“Dw i’n gobeithio cael mynd mewn cawell gyda great white shark,” meddai Meical Owen.

“Fedra i ddim sbïo ar lun o un o’r siarcod heb sgrechian!” meddai.


Anfon at ffrind