03/02/2010
Pris Picasso ddwywaith yn fwy na’r disgwyl
Fe gafodd llun ‘coll’ gan Picasso ei werthu am £8 miliwn neithiwr, dwbl y pris yr oedd arbenigwyr yn ei ddisgwyl.

Doedd Tete de Femme (Jacqueline) ddim wedi cael ei ddangos yn gyhoeddus ers 1967, bedair blynedd ar ôl iddo gael ei beintio.

Doedd y llun ddim wedi bod mewn arwerthiant o’r blaen ac roedd wedi bod yn yr un casgliad ers 1981.

Roedd y portread o ail wraig yr artist yn un o gyfres o gampweithiau mewn arwerthiant yn Christie’s, gan gynnwys lluniau gan Renoir a Matisse.

Erbyn diwedd y nos, roedd mwy na £77 miliwn wedi newid dwylo, gyda sawl un o’r lluniau’n mynd am brisiau llawer uwch na’r amcangyfri.

Ond fe fydd y Picasso’n edrych fel bargen erbyn heno - mae gan Sotheby’s arwerthiant mawr hefyd ac mae disgwyl i gerflun o’r enw L’Homme qui Marche 1 gan Alberto Giacometti godi mwy na £18 miliwn.

Doedd Christie’s ddim yn fodlon datgelu pwy oedd wedi prynu’r Picasso.

Llun: Tete de Femme (Jacqueline) gan Picasso (Gwifren PA)

Anfon at ffrind