Fe gafodd cerflun ei werthu neithiwr am fwy na £65 miliwn – record byd mewn arwerthiant celf.
Dim ond wyth munud oedd eu hangen i Sotheby’s yn Llundain werthu L’Homme Qui Marche I gan y cerlfunydd o’r Swistir Alberto Giacometti.
Mae’n debyg bod deg yn cystadlu am y cerflun maint llawn o ddyn yn cerdded a’r gred yw mai casglwr preifat sydd wedi ei brynu. Y disgwyl oedd y byddai wedi mynd am tua £18 miliwn.
Roedd y cerflun efydd wedi ei greu yn 1961, yn anterth gyrfa Giacometti, sy’n cael ei ystyried yn un o artistiaid mwya’ dylanwadol yr 20fed ganrif.
Prisiau mawr eraill
Y pris mwya’ mewn ocsiwn cyn hyn oedd y £58 miliwn a gafodd ei dalu am y llun Garcon a la Pipe gan Pablo Picasso.
Roedd yna brisiau mawr eraill yn yr arwerthiant, gyda Kirche in Cassonne gan Gustav Klimt yn mynd am bron £27 miliwn – rhwng £12 miliwn a £18 miliwn oedd y pris gosod ar gyfer hwnnw hefyd.
O’i gymharu, roedd Pichet et Fruits sur une table gan Cezanne yn fargen – am lai na £12 miliwn.
Anfon at ffrind