Mae cantores brofiadol ar fin cystadlu yn Cân i Gymru unwaith eto.
Jazz, pop, gwerin a’r blues – dyma sy’n apelio fwyaf at y gantores Lowri Evans o Drefdraeth yn Sir Benfro.
“Rwy’n hoffi canu sawl math o steil o fiwsig, dw i ddim yn canu jest un steil – byddai hyn yn ddiflas,” meddai’r ferch sy’n sgwennu a chanu ei chaneuon ei hun.
“Mae’r ardal lle rwy’n byw ynddi yn fy ysbrydoli,” meddai Lowri Evans.
“Peth od yw cyfansoddi, achos weithiau fe fydda’ i’n eistedd i lawr gyda’r gitâr, a fydd dim byd o gwbwl yn digwydd.
“Ond weithiau, mae’r caneuon yn dod yn eitha’ rhwydd – mae’n dibynnu ar y mood!” chwerthina’r ferch sy’n canu yn y Gymraeg a Saesneg.
Ail efo Cân i Gymru
Cafodd Lowri Evans sylw dros Gymru gyfan wrth iddi gystadlu yn Cân i Gymru 2008 – a chyrraedd yr ail safle gyda’r gân ‘Ti a Fi’.
“Roedd hwnnw’n deimlad ffantastig - ro’n i mor nerfus cyn mynd ar y llwyfan i ganu, ac yna, gorfod aros am y canlyniadau. Ond oedd yr holl beth yn brofiad anhygoel.”
Erbyn hyn mae ganddi newyddion cyffrous i rannu hefyd.
“Dw i ddim yn siŵr os dw i fod i ddweud eto. Ond fi wedi mynd trwyddo i’r wyth gân olaf yn Cân i Gymru eleni hefyd!”
Mae’n galw ar bawb i wylio ar nos Sul ola’r mis, “a phigo’r ffôn lan i bleidleisio amdana i!”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Y Babell Roc yn Golwg, Chwefror 4
Anfon at ffrind