04/02/2010
Poeni am y perfformiad
Mae Llion Williams wedi bod yn byw, bwyta a chysgu ei gymeriad diweddara’ yn nrama’r Gofalwr i’r Theatr Genedlaethol.

Mae’r actor a ddaeth yn enwog trwy Gymru am ei bortread o’r ‘penci’ George Huws ar C’mon Midffîld, yn wynebu her fwya’ ei yrfa meddai.

Yr wythnos hon mi fydd Llion Williams yn camu ar lwyfan am y tro cynta’ i chwarae rhan ‘Davies’ mewn addasiad Cymraeg o ddrama enwog Harold Pinter The Caretaker.

Does “dim byd o ran her” yn cymharu â hwn, meddai’r actor sydd wrthi ar lwyfan ers chwarter canrif a mwy.

“Mae’n rhaid i actor gymryd yr her yma weithiau mae’n siwr,” meddai Llion Williams.

“Mi oeddwn i’n betrus. Mi oedd gen i amheuon. Oedd gan Cefin ffydd y baswn i’n medru ei wneud o. Mae’n rhaid i fi gael ffydd yn ffydd Cefin yndda i, mae’n debyg, fel cyfarwyddwr. Mae ganddon ni berthynas waith dda iawn.”


Plentyn swil y pregethwr

Dyw Llion Williams ddim yn hoffi cymdeithasu gyda chyfryngis ac actorion eraill.

“Dyw e ddim yn rhywbeth dw i’n ei wneud. Dydw i ddim yn chwarae’r gêm os lici di. Ella o’r herwydd mae pobol wedi fy ngweld i... ddim y creadur hawsa’ o bosib? Ond fel’na ydw i.

“Mae o’n fyd mewnblyg iawn yng Nghymru wrth gwrs, sgen i’m cywilydd dweud hynny wrth gwrs.

“Mae o’n fyd lle mae yna bysgod mawr mewn llyn bach. Fel canlyniad, mae o’n fyd mewn ffordd dw i’n falch bod fi’n medru cadw troed bendant allan ohono fo yn gymdeithasol ’lly.”


Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Chwefror 4

Anfon at ffrind