05/02/2010
Hwyl y Pwyl – sioe Geltaidd yn Poznan
Bydd cerddor a bardd yn cyfarwyddo sioe fyw am ddiwylliant Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill yng Ngwlad Pwyl ddydd Sul.

Yn ôl Diarmuid Johnson, sy’n gerddor, bardd, a chyfieithydd llenyddiaeth mewn Gwyddeleg, Cymraeg a Llydaweg, does neb y tu allan i Gymru yn gwybod dim am y wlad.

Ei fwriad drwy gyfarwyddo’r sioe yn Poznan, Gwlad Pwyl fydd tynnu sylw at ddiwylliant Cymru, yr Alban a Llydaw, meddai. Bydd y sioe aml-gyfryngol ‘Eachtra’ yn cynnwys 18 o berfformwyr.

Cydweithrediad rhwng band cerddoriaeth Geltaidd JRM a grŵp dawnsio Gwyddelig Celtica yw’r sioe.


‘Creu taith’

Mae grŵp cerddoriaeth JRM yn creu miwsig 'Celtaidd' cyfoes gyda dylanwadau amrywiol fel roc a reggae.

Y nod meddai Diarmuid Johnson fydd “creu taith drwy gyfrwng lluniau a thestunau sy’n cael eu hadrodd gan actor”. Mae’n dweud bod y dawnsio’n “debyg i ballet”, nid o ran arddull ond “o ran syniadaeth”.

“Mae’r sioe yn gyfle i gyfuno elfennau o'r traddodiadau Celtaidd nad yw e fel arfer yn cael sylw yn y byd adloniant - yn enwedig iaith a llen,” meddai.


Cymru - “Aros i gael ei chreu”

“Aros i gael ei chreu y mae Cymru mewn ffordd, fel y gwnaeth Iwerddon ail greu ei hunan yn yr 20fed ganrif, ac fel y mae'r Alban wrthi yn wneud nawr,” meddai Diarmuid Johnson.

“Rhaid i Gymru allforio'r hyn sydd gyda hi, ond mae’n rhaid creu delwedd ohoni ei hun er mwyn gwneud hynny. Tu allan i Gymru, does bron neb yn gwybod dim byd am y wlad.”

Mae Diarmuid Johnson yn athro ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd ym Mhrifysgol Poznan. Mae ei fam yn hanu o Geredigion.


Anfon at ffrind